Newyddion S4C

S4C

Dedfrydau llymach i lofruddwyr sydd â hanes o reolaeth drwy orfodaeth

NS4C 17/03/2023

Bydd llofruddwyr sydd â hanes o reolaeth drwy orfodaeth yn wynebu dedfrydau llymach dan gynlluniau newydd gan Lywodraeth y DU.

Fe fydd y gyfraith yn newid yn dilyn argymhellion gan Clare Wade KC mewn adolygiad annibynnol i ddedfrydu marwolaethau domestig gafodd ei gomisiynu yn 2021.

Daeth Ms Wade i'r casgliad nad oedd y system ddedfrydu bresennol yn adlewyrchu'r ffaith bod nifer o farwolaethau o ganlyniad i gamdriniaeth domestig yn digwydd o ganlyniad i flynyddoedd o gamdriniaeth.

Dywedodd y Gweinidog Cyfiawnder, Dominic Raab bod y llywodraeth eisiau diogelu menywod.

"Mae'r llywodraeth eisiau gwneud bob dim y gallwn ei wneud er mwyn diogelu menywod bregus a chadw'r rhai sydd yn ymosod arnynt neu'n eu bygwth yn y carchar am gyfnod hirach.

"Mae'r newidiadau dwi'n eu cyhoeddi heddiw yn golygu dedfrydau hirach i'r rheiny sydd yn lladd menywod yn y cartref, trwy gymryd mwy o gyfrifoldeb am y ffactorau sydd yn arwain at hynny."

Mae marwolaeth ddomestig yn cael ei diffinio fe marwolaeth sydd yn digwydd o achos trais, camdriniaeth neu esgeulustod gan bartner, cyn-bartner neu rywun sydd yn byw gyda nhw.

Cafodd rheolaeth drwy orfodaeth ei gyflwyno fel trosedd yn y Ddeddf Troseddau Difrifol 2015, ac mae mwy na hanner o achosion llofruddio yn arolygiad Wade yn cynnwys achosion reolaeth drwy orfodaeth.

Bydd ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei lansio i benderfynu os fydd y man cychwyn i ddedfrydu llofruddwyr sydd â hanes o reolaeth drwy orfodaeth yn codi i 25 o flynyddoedd.

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.