Gêm gyfartal yn ddigon i sicrhau'r bencampwriaeth i'r Seintiau Newydd nos Wener

Gall Y Seintiau Newydd sicrhau’r bencampwriaeth gyda gêm gyfartal yng Nghei Connah nos Wener.
Chwe gêm sydd i fynd yn nhymor y Cymru Premier JD, a gyda’r Seintiau Newydd 17 pwynt yn glir o Gei Connah yn yr ail safle, byddai gêm gyfartal yn ddigon i selio’r bencampwriaeth nos Wener (19.45 - yn fyw ar S4C Clic).
Dyw’r Seintiau ond wedi colli un o’u 26 gêm gynghrair y tymor yma, ac fe fyddai’n fuddugoliaeth felys i griw Croesoswallt pe bae nhw’n gallu cipio’r bencampwriaeth yng nghartref eu gelynion pennaf, Cei Connah.
Y Seintiau Newydd sydd wedi ennill naw o’r 11 pencampwriaeth ddiwethaf, gyda Chei Connah yn codi’r tlws ddwywaith yn olynol yn 2019/20 ac yn 2020/21.
Hon fyddai’r 15fed pencampwriaeth i’r Seintiau ei hennill, sef clwb mwyaf llwyddiannus holl hanes y gynghrair, ac mae’r capten Chris Marriott yn debygol o dorri’r record fel y chwaraewr mwyaf medalog yn hanes y gynghrair os caiff ei ddwylo ar y tlws am yr 11eg tro.
Yn y 10 gêm ddiwethaf rhwng y clybiau mae Cei Connah wedi ennill pedair, Y Seintiau Newydd wedi ennill pedair a dwy gêm wedi gorffen yn gyfartal, felly er bod 17 pwynt yn eu gwahanu yn y tabl mae eu record benben diweddar yn hafal.
Wedi dweud hynny, dyw Cei Connah ond wedi ennill un o’u wyth gêm gynghrair ddiwethaf (cyfartal 6, colli 1), tra bod y Seintiau wedi ennill wyth o’u 10 gêm gynghrair ddiwethaf (cyfartal 1, colli 1).
Record cynghrair diweddar:
Cei Connah: ➖✅➖➖❌
Y Seintiau Newydd: ✅➖✅❌✅