Llywodraeth Cymru yn ‘ystyried’ y camau nesaf wedi cyhoeddiad gofal plant y Canghellor
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod nhw’n “ystyried” sut i wario arian ychwanegol gan y Trysorlys yn sgil cyhoeddiad am ehangu darpariaeth gofal plant yn y Gyllideb heddiw.
Cyhoeddodd y Canghellor Jeremy Hunt y bydd gofal plant am ddim i rieni sy'n gweithio yn Lloegr yn cael ei ehangu i gynnwys plant un a dwy oed.
Ond ni ddaeth cadarnhad gan Llywodraeth Cymru eu bod nhw’n bwriadu efelychu y cam hwnnw.
Nododd y Gweinidog Cyllid Rebecca Evans eu bod nhw eisoes yn ariannu darpariaeth blynyddoedd cynnar i bob plentyn dwy oed yng Nghymru fel rhan o’u cytundeb gyda Plaid Cymru.
“Mae’r Canghellor heddiw wedi gwneud ymrwymiadau mawr a hirdymor ar ofal plant yn Lloegr,” meddai Rebecca Evans.
“Rydyn ni eisoes yn ehangu ein cynnig gofal plant fesul cam i blant dwy oed fel rhan o’n Cytundeb Cydweithio gyda Phlaid Cymru.
“Fel Cabinet, byddwn yn ystyried sut y gallwn ddefnyddio’r cyllid canlyniadol o’r cyhoeddiad hwn yn y ffordd orau, i ddiwallu anghenion pobl Cymru.
“Ond mae angen i ni fod yn glir iawn nad yw’r Gyllideb hon yn ddigonol i fynd i’r afael â’r heriau gwirioneddol y mae pobl yn eu hwynebu.”
‘Toriadau aruthrol’
Cyhoeddodd y Canghellor y bydd £180m ychwanegol ar gael i Gymru yn sgil gwariant pellach yn Lloegr.
Dywedodd Rebecca Evans eu bod nhw’n mynd i dderbyn £178m yn ychwanegol.
Ond ychwanegodd fod y Canghellor wedi gwneud nifer o ddewisiadau bwriadol i flaenoriaethu “petrol a thyllau ffordd” dros fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus, cyflogau a thwf economaidd.
“Cyllideb nesa peth i ddim a gafwyd heddiw, nad yw’n ystyried y darlun cyfan, a hynny ar adeg pan fo sefyllfa ariannol pobl yn gwaethygu,” meddai.
“Nid yw wedi cyrraedd y nod o ran darparu cymorth ystyrlon – mae’n cynnig atebion annigonol tymor byr yn lle’r camau gweithredu sylweddol a oedd eu hangen. Mae tyllau ffordd a phetrol wedi cael blaenoriaeth dros godiadau cyflog i athrawon a staff y GIG.
“Mae gwasanaethau cyhoeddus hanfodol, y mae pob un ohonom yn dibynnu arnynt, yn parhau i wynebu toriadau aruthrol – doedd dim cyllid ychwanegol ar gyfer iechyd, gwasanaethau cymdeithasol na llywodraeth leol.”
Mesurau
Wrth siarad yn Nhŷ’r Cyffredin dywedodd y Canghellor fod economi'r Deyrnas Unedig "ar y llwybr cywir" a bydd yn "profi'r rheini sy'n ei amau yn anghywir".
Dywedodd nad yw'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol (yr OBR) sydd yn asesu'r Gyllideb o safbwynt annibynnol bellach yn darogan dirwasgiad eleni.
Ymysg y mesurau a gyhoeddodd roedd:
- £20m ychwanegol i drwsio morglawdd Caergybi.
- 'Parth buddsoddi' newydd i Gymru a fydd yn cael £80m.
- Bydd y cymorth presennol ar gostau ynni yn parhau tan fis Mehefin.
- Bydd treth tanwydd yn cael ei rewi am flwyddyn.