Newyddion S4C

x

Pumed dyn wedi'i arestio ar amheuaeth o smyglo mudwyr i'r DU mewn cychod

NS4C 15/03/2023

Mae pumed dyn wedi’i arestio ar amheuaeth o gludo mudwyr i’r DU o Wlad Belg mewn cychod.

Cafodd dinesydd Albanaidd ei arestio gan swyddogion yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol (NCA) yn Loughborough, Swydd Gaerlŷr, ddydd Mercher, meddai’r NCA.

Mae cwch wedi cael ei gadw gan y NCA yn Brightlingsea, Essex.

Dywedodd Derek Evans, uwch swyddog ymchwilio gyda’r NCA: “Mae’r dyn a arestiwyd yn cael ei amau o ymwneud â chynllwyn i ddefnyddio cychod bach i smyglo pobl.

“Mae mynd i’r afael â throseddau mewnfudo cyfundrefnol yn flaenoriaeth i’r NCA ac mae ein hymchwiliad yn parhau.”

Y dyn 44 oed, o Gaerlŷr, yw’r pumed dyn i gael ei arestio mewn cysylltiad â'r gang. Mae’r NCA yn honni iddo drefnu teithiau i smyglo pobl i’r DU o Ewrop y llynedd.

Bydd Arsen Feci, 44 a Klodian Shenaj, 48, o Nottingham, a Banet Tershana, 51, o Hove, Dwyrain Sussex, yn ymddangos o flaen Llys y Goron Nottingham gyda’r Gwyddel 46 oed Desmond Rice, o Aylesbury, Swydd Buckingham, ar 29 Mawrth.

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.