Gweinidog Diogelwch y DU yn dweud nad yw'n diystyru gwahardd ap TikTok

Mae gweinidog diogelwch y DU yn dweud nad yw’n diystyru gwaharddiad ar TikTok yn sgil pryderon am gysylltiadau’r ap gydag awdurdodau Tsieina.
Fe ddywedodd Tom Tugendhat AS ddydd Mawrth ei fod yn disgwyl adolygiad gan y Ganolfan Genedlaethol ar Ddiogelwch Seibr cyn gwneud penderfyniad dros ddefnydd yr ap, gafodd ei ddatblygu yn Tsieina.
Daw hyn yn dilyn awgrymiadau gan y Prif Weinidog Rishi Sunak y gall y DU ddilyn yr Unol Daleithiau a’r Undeb Ewropeaidd drwy wahardd yr ap o ffonau gwaith staff y llywodraeth.
Pan ofynnwyd ar Times Radio os byddai’n ystyried gwaharddiad llwyr o’r ap, atebodd Mr Tudendhat: “Mi gaiff hyn ei ystyried yng nghyd-destun yr heriau rydyn ni’n wynebu, y bygythiadau rydyn ni’n wynebu. Ni alla’i roi ateb i chi ar hyn nes fy mod yn ymwybodol o’r holl risgiau.”
Mae TikTok yn mynnu nad yw’n rhannu data gydag awdurdodau Tsieina, ond mae deddfwriaeth gwybodaeth y wlad yn gorfodi cwmnïau i gydymffurfio gyda gofynion y Blaid Gomiwnyddol.
Mae’r rhai sydd yn feirniadol yn y gorllewin yn pryderu y gallai defnydd o’r ap arwain at rannu data gyda Beijing.
Cafodd cyfrif TikTok Senedd y DU ei gau i lawr y llynedd ar ôl i aelodau godi pryderon am gysylltiadau’r cwmni gyda Tsieina.