Jonny Williams yn ymddeol o bêl-droed rhyngwladol

Mae Jonny Williams wedi cyhoeddi ei fod yn ymddeol o bêl-droed rhyngwladol yn 29 oed.
Mae'r chwaraewr canol cae wedi chwarae 33 o gemau dros Gymru.
Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol brynhawn Sul, dywedodd ei fod wedi "penderfynu mai nawr ydy'r amser cywir i mi gamu yn ôl ac ymddeol o bêl-droed rhyngwladol.
"Ers yn 15 oed, mae hi wedi bod yn fraint ac yn anrhydedd i wisgo'r ddraig goch ar fy nghrys. Dwi wedi bod mor lwcus o gael chwarae gyda gymaint o chwaraewyr gwych dros y blynyddoedd.
"Wedi ein hamgylchynu gan undod anhygoel rhwng chwaraewyr, staff a'r cefnogwyr, fe wnaethom ni greu un teulu mawr a chyflawni llwyddiant arbennig.
"Rwy'n ddiolchgar am byth am y cyfleoedd gefais i gan Osian Roberts a Brian Flynn yn y timau ieuenctid, ac i Gary Speed, Chris Coleman, Ryan Giggs a Rob Page ar lefel uwch.
"Roedd cael fy enw wedi ei ganu gan gymaint o gefnogwyr Cymru yn golygu'r byd i mi a dwi'n diolch i chi am bopeth."
Diolch Jonny ❤️🏴#TogetherStronger pic.twitter.com/Yc6aAXgjLV
— Wales 🏴 (@Cymru) March 12, 2023
Mae Williams yn chwarae fel canolwr i glwb Swindon Town yn Adran Dau.
Llun: Asiantaeth Huw Evans