Pwy fydd yn fuddugol yn yr Oscars eleni? Gary Slaymaker sy'n trafod y ffefrynnau
Pwy fydd yn fuddugol yn yr Oscars eleni? Gary Slaymaker sy'n trafod y ffefrynnau
Mae'r arbenigwr ffilmiau, Gary Slaymaker, yn credu ei bod hi’n anodd iawn dyfalu pwy fydd yn ennill y gwobrau yn seremoni'r Oscars eleni.
Bydd y gwobrau marweddog yn dychwelyd mewn seremoni yn Los Angeles ddydd Sul.
Everything Everywhere All At Once oedd y ffilm a dderbyniodd y nifer fwyaf o enwebiadau, gydag 11.
Fe wnaeth y ffilmiau All Quiet on the Western Front, Elvis a Top Gun: Maverick hefyd dderbyn nifer o enwebiadau.
Derbyniodd Avatar: The Way of Water bedwar enwebiad, ar ôl cryn dipyn o ddisgwyl am y ffilm.
Dywedodd Gary Slaymaker bod y tair blynedd ddiwethaf yn yr Oscars wedi bod yn hynod o agos ym mhob categori.
“S’dim trwch blewyn rhwng rhan fwyaf o'r cystadleuwyr a ma'r un peth yn wir 'lenni," meddai wrth Newyddion S4C.
"Allai unrhyw un ennill ond ma' 'na ffefrynne i weld yn dod i'r gad.
"Fi'n credu mai'r un anodda i ateb fyddai'r ffilm ore achos i fi Everything Everywhere All At Once yw hi achos ma'i mor wreiddiol â mor wyllt.
“Ma' 'na lot o gariad wrth gwrs i'r The Banshees of Inisherin a hefyd ma' 'na deimlad allai Spielberg ennill am The Fabelmans achos bod e'n stori o'i gefndir e."
'Problem ers blynyddoedd'
Bydd trefnwyr y gwobrau yn gobeithio na fydd hanes yn ailadrodd ei hun yn dilyn y gwobrau llynedd.
Cafodd cyflwynydd yr Oscars y llynedd, Chris Rock ei daro yn fyw ar lwyfan gan Will Smith ar ôl i'r comedïwr wneud jôc am wraig yr actor, Jada Pinkett Smith.
Ond un ddadl sy’n codi bob blwyddyn yn ddiweddar yw’r cwestiwn o amrywiaeth a chynrychiolaeth.
Dywedodd Gary Slaymaker bod yr un cwestiwn yn codi eleni, gyda phob enwebiad ar gyfer y cyfarwyddwr gorau yn mynd i ddynion.
"Ma hwn yn broblem sydd wedi bod gyda'r Oscars ers blynyddoedd. Fuodd sôn amdano fe dwy flynedd yn ôl bod yr Oscars yn rhy wyn," meddai.
"Ma' nhw wedi cymryd camau llawer rhy fach ond y peth sydd yn taro rhywun yw'r ffaith bod 'na gyn lleied o fenywod yn cael eu cynrychioli 'lenni."
‘Hwb i Gymru’
Fe wnaeth Gary hefyd groesawu'r ffaith fod ffilmiau, actorion a chyfarwyddwr o Iwerddon wedi derbyn 14 enwebiad rhyngddynt.
"Y ffilm sy' 'di dala'r sylw yw The Banshees of Inisherin ac mae yn arbennig o dda ond hefyd yn y ffilm orau o dramor, ma 'da ti The Quiet Girl o'r Iwerddon wedi cael ei ffilmio yn yr iaith Wyddeleg sydd hefyd yn hyfryd,” meddai.
"Yn anffodus, ma honna fyny yn erbyn All Quiet on the Western Front ond ma'r ffaith bod 'da ti pobl sy'n neud ffilm o Iwerddon nawr yn cystadlu ar y llwyfan mwyaf, dyle fe fod yn hwb i ni fan hyn yng Nghymru."
Mae'r gwobrau yn unigryw ac yn dal sylw'r byd, yn ôl Gary.
"Jyst yr enw, yr Oscars, yn dala'r dychymyg wy'n credu - bron hon yw'r Premier League o wobre ar gyfer ffilm a phethe ond mae hi wedi bod yn rhedeg cyhyd ac wrth gwrs, ma' 'na gyment o storie a chlipie sy'n mynd gyda'i," meddai.
"Fydd rhywbeth yn digwydd nos Sul fydd bobl yn trafod falle am yr wythnos neu ddou nesaf."
Un record sydd wedi ei thorri yn barod yw mai John Williams yw’r unigolyn hynaf i dderbyn enwebiad ar gyfer y gwobrau, yn 90 oed.
Cafodd ei enwebu am sgôr ffilm The Fabelmans - enwebiad rhif 53 i gyfansoddwr Star Wars, Jaws ac Indiana Jones.