Pryder economaidd wrth i’r banc mwyaf ers chwalfa ariannol 2008 fethu

Mae pryder economaidd ddydd Sadwrn wedi i’r banc mwyaf ers chwalfa ariannol 2008 fethu yn yr Unol Daleithiau.
Cafodd Silicon Valley Bank ei gau gan reoleiddwyr banciau California ddydd Gwener.
Dyma oedd yr 16eg banc mwyaf yn yr Unol Daleithiau y llynedd gyda $209 biliwn mewn asedau.
Y gred yw fod penderfyniad y Gronfa Ffederal, y Fed, i godi cyfraddau llog er mwyn ceisio rheoli chwyddiant wedi chwarae rhan allweddol yn nhrafferthion y banc.
Dyma’r banc mwyaf i gael ei gau gan reoleiddwyr ers i Washington Mutual fynd i’r wal yn 2008.
Arweiniodd methiant cyfres o fanciau ar y pryd at ddirwasgiad byd-eang.
Gyrrodd prif weithredwr Silicon Valley Bank, Greg Becker neges fideo at ei staff ddydd Gwener yn cydnabod eu bod nhw mewn sefyllfa “ofnadwy o anodd”.
Dyw’r cwmni heb gynnig unrhyw sylw cyhoeddus, yn ôl Reuters.
Mae banciau yn yr Unol Daleithiau wedi colli $100bn o’u gwerth dros y dyddiau diwethaf o ganlyniad i bryderon am godi cyfraddau llog.