Cip ar gemau dydd Sadwrn y Cymru Premier JD

Wedi i'r gynghrair rannu yn ddwy, mae'r gystadleuaeth ar gyfer llefydd yn Ewrop ac i osgoi'r cwymp yn parhau dros y penwythnos.
Chwech Uchaf
Pen-y-bont (3ydd) v Cei Connah (2il) | Dydd Sadwrn – 14:30
Torrodd y newyddion fis diwethaf bod Pen-y-bont yn debygol o golli chwe phwynt ar ôl chwarae chwaraewyr anghymwys yn y gynghrair.
Bydd hon yn ergyd fawr i obeithion Pen-y-bont o geisio gorffen yn yr 2il safle er mwyn sicrhau lle’n Ewrop am y tro cyntaf yn eu hanes.
Cei Connah sydd yn 2il ar hyn o bryd, ond gyda dim ond un buddugoliaeth yn eu saith gêm gynghrair ddiwethaf mae angen i’r Nomadiaid fod yn wyliadwrus a pheidio gorffwys ar eu rhwyfau cyn cadarnhau eu lle’n Ewrop.
Roedd Pen-y-bont wedi mynd ar rediad o 10 gêm heb golli cyn cael eu trechu gan Y Seintiau Newydd yn y gwpan, a bydd y ddau glwb eisiau ymateb positif yn dilyn eu siom y penwythnos diwethaf.
Bydd hi’n dalcen caled i Ben-y-bont sydd ond wedi sgorio unwaith yn eu pum gêm ddiwethaf yn erbyn Cei Connah, ac sydd erioed wedi ennill gartref yn erbyn y Nomadiaid (cyfartal 3, colli 2).
Record cynghrair diweddar:
Pen-y-bont:➖ ✅➖✅✅
Cei Connah: ✅➖➖❌➖
Chwech Isaf
Aberystwyth (11eg) v Hwlffordd (8fed) | Dydd Sadwrn – 14:30
Yn y Chwech Isaf, dim ond chwe phwynt sy’n gwahanu Aberystwyth yn safleoedd y cwymp, a Chaernarfon (7fed) sy’n anelu i gyrraedd y gemau ail gyfle.
Mae Aberystwyth yn un o’r ddau glwb sydd wedi bod yn holl-bresennol yn Uwch Gynghrair Cymru ers ffurfio’r gynghrair yn 1992 (gyda’r Drenewydd) a bydd Anthony Williams yn awyddus i beidio bod y rheolwr cyntaf i yrru’r tîm o Geredigion i’r ail haen.
Ond bydd yr hyder yn uchel ar Goedlan y Parc ar ôl i Aberystwyth chwalu Airbus bythefnos yn ôl (Air 1-7 Aber) gyda chanlyniad oedd yn hafal â’u buddugoliaeth fwyaf erioed yn y gynghrair.
Wedi dweud hynny, mae Aberystwyth yn dal i aros am eu llechen lân gyntaf yn y gynghrair y tymor yma, ac mae’r Gwyrdd a’r Duon wedi ildio tair gôl neu fwy mewn 11 o’u 25 gêm (44%).
Mae Hwlffordd wedi dangos fflachiau o safon y tymor yma, ond mae eu record oddi cartref yn eu cosbi’n eithriadol gyda’r Adar Gleision bellach wedi colli eu chwe gêm ddiwethaf oddi cartref.
Mae’r timau wedi cyfarfod ddwywaith y tymor yma gyda’r ddau dîm yn ennill eu gemau cartref, ond mae bron blwyddyn union wedi pasio ers i Hwlffordd sicrhau eu buddugoliaeth fwyaf erioed yn y gynghrair, ac hynny oddi cartref yn erbyn Aberystwyth gyda Touray Sisay yn taro hatric i’r Adar Gleision (Aber 0-6 Hwl).
Record cynghrair diweddar:
Aberystwyth: ✅➖❌✅❌
Hwlffordd: ❌✅❌✅❌
Pontypridd (10fed) v Caernarfon (7fed) | Dydd Sadwrn – 14:30
Pontypridd a Chaernarfon ydi’r ddau dîm gyda’r record orau’n y gynghrair gyfan ers yr hollt (ennill 2, cyfartal 1), a dim ond pum pwynt sy’n eu gwahanu yn y Chwech Isaf.
Mae Caernarfon wedi gorfod bodloni ar le yn y Chwech Isaf am y tro cyntaf ers eu dyrchafiad yn 2018, ond bydd y Cofis yn benderfynol o ddal gafael ar y 7fed safle er mwyn sicrhau lle yn y gemau ail gyfle i gystadlu am docyn i Ewrop ar ddiwedd y tymor.
Mae Pontypridd wedi ennill eu pedair gêm gartref ddiwethaf, gan roi gobaith gwirioneddol i’r clwb ddal eu tir yn y gynghrair yn eu tymor cyntaf erioed yn y brif haen.
Ac mae Caernarfon wedi colli oddi cartref yn erbyn pob un o glybiau’r Chwech Isaf y tymor yma (oni bai am Airbus), yn cynnwys y golled o 3-1 ym Mhontypridd ym mis Hydref.
Record cynghrair diweddar:
Pontypridd: ✅➖✅❌❌
Caernarfon: ➖✅✅❌✅
Y Fflint (9fed) v Airbus UK (12fed) | Dydd Sadwrn – 14:30
Ar 22 Hydref 2022 fe gymrodd Jamie Reed yr awennau yn ei gêm gyntaf fel rheolwr Airbus UK gyda’r clwb yn eistedd ar waelod y gynghrair gyda -2 o bwyntiau ar ôl derbyn cosb o driphwynt am chwarae chwaraewr anghymwys.
Collodd Airbus y gêm agos honno o 1-0 oddi cartref yn erbyn Y Fflint, ac ers hynny, nid yn unig y mae Jamie Reed wedi methu a chipio dim un pwynt ychwanegol i’r clwb, ond yn hytrach mae bechgyn Brychdyn mewn perygl o dderbyn triphwynt arall o gosb am dorri’r rheolau eilyddio am yr eildro’r tymor yma.
Felly mae Airbus yn sicr o orffen y tymor ar waelod y gynghrair, a’r her i’r clwb erbyn hyn ydi ceisio sicrhau bod carfan safonol yn ei le yn barod i gystadlu yng nghynghrair y JD Cymru North tymor nesaf.
Mae gan Y Fflint record dda gartref gyda’r Sidanwyr ond wedi colli un o’u o’u saith gêm ddiwethaf ar Gae-y-Castell, ac honno yn erbyn Y Seintiau Newydd.
Does neb wedi sgorio mwy o goliau yn eu tair gêm ers yr hollt na’r Fflint (11 gôl), gyda’r blaenwr ifanc, Zack Clarke, ar fenthyg o Gaer, yn sgorio pump o’r 11 goliau rheiny.
Record cynghrair diweddar:
Y Fflint: ➖❌✅✅❌
Airbus UK: ❌❌❌❌❌
Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio a bydd y gorau o gemau’r penwythnos i’w gweld ar S4C nos Lun am 9:30.