Newyddion S4C

Sian Doyle

'Anodd i deuluoedd gael atebion' wrth chwilio am ddiagnosis o anhwylderau iechyd meddwl

NS4C 08/03/2023

Mae Prif Weithredwr S4C wedi dweud ei bod yn anodd i deuluoedd gael diagnosis o anhwylderau iechyd meddwl i'w hanwyliaid sydd yn dioddef.

Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru ddydd Mercher, dywedodd Siân Doyle fod personoliaeth ei merch ei hun wedi newid yn y gorffennol, ac nad oedd hi'n deall pam fod hynny wedi digwydd ar y dechrau.

Ychwanegodd ei bod hi'n teimlo'n fregus gan nad oedd hi'n gallu gwneud llawer i helpu ei merch ar y pryd, a bod ceisio cael diagnosis yn broses anodd.

"O'dd na lot o frustration, achos chi mo'yn neud y peth iawn pan i chi’n mam, ond gyda iechyd meddwl mae'n anodd gwybod lle i fynd am wybodaeth a lle mae’r ateb," meddai.

"Ma' fe lot mwy heriol a chi jyst yn teimlo tipyn bach yn vulnerable achos chi’n teimlo fel chi ddim yn neud y peth iawn.

"Ma’n anodd iawn cyrraedd y pwynt am help. Am gyfnod o ni ddim yn siŵr beth oedd yn mynd ymlaen, oedd ei phersonoliaeth yn wahanol iawn i pan o'dd hi’n ifanc. Nes i ddechrau neud rhyw fath o ymchwil i weld sut fydden ni’n ffindo ffordd trwyddo fe."

'Rhyddhad'

Cafodd merch Siân diagnosis o anhwylder deubegynnol neu bipolar rhai blynyddoedd yn ôl, ac roedd hyn yn rhyddhad mawr i Siân gan ei fod yn golygu bod modd cael meddyginiaethau i drin y cyflwr.

"Unwaith i chi’n cal y diagnosis ma' bywyd yn mynd lot yn haws, o leiaf chi'n gwybod be' chi'n delio gyda wedyn. 

"O'dd cal y diagnosis yn bach o ryddhad a wedyn mae'r cyfnod o setlo hi lawr a cael y meddigyniaeth iawn."

Ers i'w merch gael y diagnosis mae hi wedi gallu rheoli'r cyflwr, ac mae Siân yn falch iawn ohoni.

Yn ogystal, mae Siân eisiau siarad am anhwylderau er mwyn gallu rhoi cymorth i unigolion sydd hefyd yn cael diagnosis.

"Aethon ni trwy hwnna a rheoli'r cyflwr gyda rhyw fath o feddyginiaeth, a nawr mae’n byw ei bywyd yn rheoli fe a fi mor prowd o hi. Mae hi'n byw ei bywyd a hi sydd yn rheoli fe nawr.

"Fuon ni’n lwcus bod ni wedi cael y diagnosis yn gynnar yn ei bwyd hi, so ma hi’n lwcus iawn achos allai ddim dychmygu os o'n ni'n gorfod mynd degawdau heb y diagnosis 'na.

"Mae'n bwnc enfawr a mor bersonol hefyd, a rhywbeth i ni fel teulu. 

"Fi'n gobeithio bydd lot mwy o siarad amdano fe nawr... dwi’n croesawu gymaint o sgwrs er mwyn i ni gallu helpu mwy o unigolion."

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.