Newyddion S4C

Cynnydd yn y galw am fwndeli babi yn llawn nwyddau hanfodol

Cynnydd yn y galw am fwndeli babi yn llawn nwyddau hanfodol

NS4C 07/03/2023

Mae mudiad sy'n darparu bwndeli babi yn llawn nwyddau hanfodol i rieni newydd yn y gorllewin, yn rhybuddio ei bod hi'n anodd ymateb i'r galw cynyddol am eu gwasanaeth.

Mae elusen Plant Dewi wedi dweud wrth Newyddion S4C eu bod nhw bellach yn helpu tua wyth teulu yr wythnos. Rhai blynyddoedd yn ôl, roedden nhw'n delio ag wyth teulu y mis.

Yr argyfwng costau byw yw'r prif reswm am y cynnydd yn ôl y mudiad, gyda mwy o rieni mewn gwaith yn derbyn nwyddau.

Ym mhentref Cwmgors yn Sir Gaerfyrddin, mae sesiynau yn cael eu cynnal i blant a rhieni newydd 

Mae Elis a'i fam, Tara Steinmann, o Frynaman, yn mwynhau cymdeithasu yn y sesiynau hynny yn wythnosol. Mae'n gyfle hefyd i gael nwyddau hanfodol i Elis, pan fo'r esgid yn gwasgu.

"Fi mor hapus yn dod yma bob wythnos. Mae'n help fowr i fi a theuluoedd eraill i gael nappies. Mae pris nhw wedi mynd lan," meddai.

Image
Sesiwn rhieni newydd

"Er bod fi a fy mhartner yn gweithio, fi'n gweithio'n rhan amser nawr o achos gofal plant ond mae'n syndod cymaint o help mae wedi bod, er ein bod ni'n gweithio.

"Ma' hyd yn oed cael pethau fel cewynnau o dro i dro ac ychydig o ddillad i Elis, mae wedi helpu lot. Mae (pris) pob dim wedi mynd lan. Bob tro fi'n mynd i siopa, mae pob dim yn costio mwy ac ry'ch chi'n meddwl, 'ma dal rhaid cael yr un pethau i'ch plant bob wythnos'."

Yn ôl Mari Thomas o Undeb y Mamau, sy'n darparu rhoddion i'r bwndeli, mae cynnydd yn nifer y rhieni mewn gwaith sy'n derbyn y bwndeli.

"Dyna 'be sy'n od, byddech chi wastad wedi meddwl 'pobol sdim gwaith 'da nhw', na, mae'r rhein yn bobol sy'n gweithio," meddai.

"Dy'n nhw ddim yn cael digon oherwydd bod rhent eu tŷ nhw wedi mynd lan, mae nwyddau wedi mynd lan, mae bwyd wedi mynd lan. Mae'n erchyll pan chi'n meddwl amdano fe."

Image
Mari Thomas
Dywedodd Mari Thomas o Undeb y Mamau eu bod yn gweld rhagor o bobl sydd mewn gwaith yn chwilio am gymorth

Mae Plant Dewi yn darparu nwyddau i deuluoedd ledled y gorllewin. Ac mae ceisio ymateb i'r galw aruthrol am fwndeli i fabis yn profi'n heriol.

"Llynedd rhoion ni mas dros 200 o fwndeli i gyd. Eleni, ym mis Ionawr a mis Chwefror, ni wedi rhoi 58 yn barod felly mae'r angen ar gyfer y prosiect yn cynyddu'n sylweddol ar hyn o bryd," meddai Catrin Eldred, rheolwraig yr elusen.

"Ni yn gwybod hefyd, 'ma fe'n mynd i fod yn fwy heriol wrth i'r amser fynd ymlaen, wrth i'r costau byw gadw i gynyddu. Ni'n gwybod bod mwy o deuluoedd yn mynd i fod yn dod atom ni.

"Mae'n mynd i fod yn ofid i ni achos ma' fe'n tynnu pobol (staff yr elusen) oddi wrth y gwaith eraill maen nhw'n gwneud, i wneud yn siŵr bod ni'n gallu cadw lan gyda'r ddarpariaeth yma."

Image
Catrin Eldred
Yn ôl Catrin Eldred o'r elusen Plant Dewi, mae'r galw am nwyddau hanfodol yn cynyddu 

Er gwaetha'r pwysau'r, mae Plant Dewi yn pwysleisio bod nhw'n dal i fod ar gael i helpu unrhyw un sydd mewn angen.

Mae'n ymdrech gymunedol i sicrhau bod rhoddion ar gael, yn ôl Mari Thomas o Undeb y Mamau.

"Fi'n cofio un diwrnod, rhyw fis cyn y Nadolig, 'wedodd (Plant Dewi), 'ma'r tywydd yn dechrau oeri, ydy hi'n bosib cael siwmperi?' Roedd hwnna ar Ddydd Llun, erbyn dydd Sadwrn roedd 15 siwmper wedi dod mewn.

"Ry'n ni'n ymateb mor gynted ag y gallwn ni."

 

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.