Newyddion S4C

Brechiadau atgyfnerthu Covid-19 ar gael i'r rhai mwyaf agored i niwed o ddechrau Ebrill

07/03/2023
S4C

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd rhaglen brechiadau atgyfnerthu Covid-19 y gwanwyn yn dechrau ar 1 Ebrill i bobl sydd fwyaf agored i niwed, gan gynnwys pobl dros 75 oed. 

Yn dilyn cyngor gan arbenigwyr y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI), bydd y brechlyn yn cael ei gynnig i oedolion 75 oed a hŷn, preswylwyr mewn cartrefi gofal i oedolion hŷn ac unigolion pump oed a hŷn sydd â system imiwnedd wan.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y bydd y cynnig cyffredinol o frechiad atgyfnerthu COVID-19 yn dod i ben ar 31 Mawrth.

Er hyn, dywedodd y Llywodraeth y bydd grwpiau risg uwch a phobl sy'n datblygu cyflwr iechyd newydd sy'n eu gwneud yn gymwys i gael eu brechu, yn dal i allu cael eu brechiad atgyfnerthu, os bydd meddyg neu glinigydd arall yn eu cynghori i’w gael.

'Dal i gylchredeg'

Dywedodd Syr Frank Atherton, Prif Swyddog Meddygol Cymru bod Covid-19 yn parhau i gylchredeg a bod pobl yn parhau i fod mewn risg difrifol o'i ddal.

"Mae’r coronafeirws yn dal i gylchredeg yn ein cymunedau, felly rydyn ni’n cynnig brechiad atgyfnerthu arall i’r rheini sydd fwyaf agored i niwed y gwanwyn hwn. Bydd yr unigolion hynny sy'n gymwys i gael eu brechu yn dechrau derbyn eu gwahoddiadau yn yr wythnosau nesaf.

"Brechu yw'r ffordd orau o hyd o’ch amddiffyn eich hun a'r bobl o'ch cwmpas i atal lledaeniad COVID-19 a byddwn yn annog pawb i gael eu brechu."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.