Dedfrydu Wayne Couzens am droseddau yn y misoedd cyn iddo lofruddio Sarah Everard

Mae'r cyn blismon o Heddlu'r Met, Wayne Couzens wedi ei ddedfrydu i garchar am 19 mis yn Llys yr Old Bailey, ar ôl pledio'n euog i dri achos o arddangos ei hun mewn modd anweddus.
Cyflawnodd y troseddau hynny yn y misoedd cyn iddo gipio, treisio a llofruddio Sarah Everard yn ne Llundain.
Roedd Wayne Couzens, 50, i fod ar ddyletswydd ac yn gweithio o'i gartref pan gyflawnodd y drosedd gyntaf, o flaen dynes ar gefn ei beic ar lôn wledig yng Nghaint ym mis Tachwedd 2020.
Ac yna aeth ymlaen i ymddwyn yn anweddus o flaen dwy ddynes y tu allan i fwyty yng Nghaint ar 3 Mawrth 2021, ddyddiau yn unig cyn llofruddio Ms Everard.
Wrth gael ei ddedfrydu fore Llun trwy gyfrwng cyswllt fideo o garchar Frankland, ni ddangosodd Couzens unrhyw emosiwn.
Mae e eisoes yn treulio dedfryd o garchar am oes, am gipio, treisio a llofruddio Sarah Everard ar ddechrau Mawrth 2021.