Newyddion S4C

Heddlu.

Apêl heddlu yn dilyn gwrthdrawiad angheuol yn Sir Wrecsam

NS4C 05/03/2023

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am wybodaeth yn dilyn marwolaeth dyn mewn gwrthdrawiad ger Gwersyllt yn Sir Wrecsam ddydd Sadwrn.

Bu farw’r dyn oedd yn seiclo mewn gwrthdrawiad gyda char Fiat 500 gwyn ar ffordd yr A541, Ffordd Yr Wyddgrug ger cyffordd Hen Ffordd Yr Wyddgrug am tua 16:05 brynhawn dydd Sadwrn.

Roedd y ffordd wedi cau am rai oriau yn dilyn y gwrthdrawiad.

Mae'r llu yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw gan nodi cyfeirnod A032132.
 

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.