Newyddion S4C

Steddfod

Cyhoeddi cartref Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2024

NS4C 03/03/2023

Maldwyn fydd cartref Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn 2024. 

Cyhoeddodd y mudiad y bydd yr Eisteddfod yn cael ei chynnal ar gaeau Fferm Mathrafal ger Meifod. 

Dyma'r tro cyntaf ers 1988 i Eisteddfod yr Urdd gael ei chynnal ym Maldwyn, a dywedodd y mudiad fod "gwirfoddolwyr a’n aelodau wrthi’n brysur yn paratoi i’n croesawu i’r ardal!"

Ond bydd y lleoliad yn un cyfarwydd i Eisteddfotwyr selog. Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi cael ei chynnal ar Fferm Mathrafal ddwywaith o'r blaen, yn 2003 a 2015. 

Bydd Eisteddfod yr Urdd 2023 yn cael ei chynnal yn Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin rhwng 29 Mai a 3 Mehefin eleni.

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.