Angen 'torri'r cylch' o weld plant rhieni sydd wedi bod yn y system gofal plant yn cael eu cymryd i ofal hefyd

Mae angen 'torri'r cylch' o weld plant rhieni sydd wedi bod yn y system gofal plant yn cael eu cymryd i ofal hefyd yn ôl Pwyllgor Deisebau Senedd Cymru.
Mae'r adroddiad gan y Pwyllgor Deisebau yn galw am fwy o gymorth i bobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal neu'r rhai sydd mewn gofal pan yn rieni.
Mae’n rhan o waith ehangach gan y senedd gyda disgwyl i adroddiad cynhwysfawr gael ei gyhoeddi gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ym mis Mai.
Fe wnaeth y pwyllgor glywed gan 25 o rieni oedd wedi bod mewn gofal pan yn blant, ac roedd plant nifer ohony nhw wedi cael eu cymryd oddi arnyn nhw a'u rhoi mewn gofal maeth neu wedi cael eu mabwysiadu.
O'r plant oedd wedi cael eu mabwysiadu, roedd 27% o famau ac 19% o dadau y rheini wedi gadael y system gofal eu hunain.
'Trin yn wahanol'
Dywedodd y rhieni wrth y pwyllgor eu bod wedi "blino ar gael eu trin yn wahanol" am eu bod wedi bod mewn gofal ac nad oedd y system yn rhoi'r gefnogaeth briodol "yn enwedig pan roeddent yn cael plant".
Dywedodd Cadeirydd Pwyllgor Deisebau'r Senedd, Jack Sargeant AS, ei fod yn "gobeithio y bydd ein hadroddiad a'n hargymhellion yn mynd rhywfaint o’r ffordd i sicrhau bod rhieni sydd â phrofiad o fod mewn gofal yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt, ac y bydd yn llywio gwaith ehangach y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg sy’n edrych ar y system ofal yng Nghymru yn ei chyfanrwydd."
Ychwanegodd Cadeirydd y pwyllgor, Jayne Bryant, ei bod yn "mawr groesawu gwaith y Pwyllgor Deisebau sy’n edrych ar y rhan hynod bwysig hon o'r system ofal.
"Mae'r adroddiad yn garreg filltir o ran y gwaith o graffu ar y system ofal sy'n digwydd ar draws y Senedd. Bydd yn ddarn allweddol o dystiolaeth i ni, y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, yn ein hymchwiliad cynhwysfawr i'r system ofal yng Nghymru yn ei chyfanrwydd."
Fe roddodd y Pwyllgor chwe argymhelliad, gan gynnwys darparu tai addas i bob rhiant sydd â phrofiad o fod mewn gofal a mynd ati yn rheolaidd i ddiweddaru'r data ar nifer y bobl ifanc mewn gofal sydd â phlant.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod "eisiau gweld llai o blant a phobl ifanc yn mynd mewn i ofal drwy ddarparu'r gefnogaeth gywir ar yr amser cywir i deuluoedd sy'n profi amseroedd anodd."
"Ar gyfer y plant sydd mewn gofal, rydym eisiau iddynt barhau yn agos at adref fel y gallant barhau i fod yn rhan o'r gymuned."