Aaron Ramsey yn dweud nad oes bwriad ganddo ymddeol o chwarae dros Gymru
Mae Aaron Ramsey wedi dweud wrth y wasg yn Ffrainc nad oes bwriad ganddo ymddeol eto o chwarae dros Gymru.
Ond cyfaddefodd y chwaraewr canol cae sy’n un o sêr Nice ei fod wedi ei chael hi’n anodd dod i delerau ag ymgyrch siomedig Cymru yng Nghwpan y Byd.
Mae Gareth Bale a Joe Allen ill dau wedi cyhoeddi eu bod nhw’n ymddeol ers i Gymru sicrhau gêm gyfartal yn erbyn UDA a cholli yn erbyn Iran a Lloegr yn Qatar.
“Rwy’n dal i deimlo fod gen i lawer i’w gynnig ac rydw i’n gyffrous iawn am ein dyfodol ni fel gwlad,” meddai Aaron Ramsey wrth wasanaeth chwaraeon Ffrengig GET.
“Mae yna chwaraewyr ifanc gwych yn chwarae ar y lefel uchaf, yn chwarae yn yr Uwch Gynghrair, chwaraewyr uchelgeisiol iawn sydd eisiau mwynhau rhagor o lwyddiant.
“Wrth gwrs, roedd Cwpan y Byd yn siom enfawr, ond mae’r cyfle wedi mynd nawr. Mae yn y gorffennol.
“Mae’n rhaid i ni edrych ymlaen at yr ymgyrch nesaf byddwn ni am gael dechrau da a gobeithio cyrraedd y bencampwriaeth honno.”
Bydd Cymru yn chwarae Croatia oddi cartref ar 25 Mawrth.