Newyddion S4C

'Dim geiriau' i egluro pa mor anodd oedd gadael Wcráin

'Dim geiriau' i egluro pa mor anodd oedd gadael Wcráin

NS4C 24/02/2023

Does 'dim geiriau' i egluro pa mor anodd oedd gadael Wcráin, yn ôl un sydd wedi gorfod ffoi i Gymru yn sgil y rhyfel yn y wlad. 

Flwyddyn union ers i Rwsia ymosod ar Wcráin, un sydd yn hiraethu'n fawr am ei mamwlad ydy Elina Shchohla. 

Mae Elina yn 18 oed ac yn bianydd proffesiynol o Kyiv sydd wedi bod yn byw yng Nghymru ers mis Medi, ac mae hi'n byw mewn gwesty yn Llandudno gyda'i mam, ei brawd iau a'u ci. 

Mae ei brawd hŷn a'i thad yn parhau yn Wcráin, rhywbeth sydd yn codi hiraeth mawr ar Elina. 

"Dwi wedi bod yn byw yng Nghymru ers mis Medi oherwydd y rhyfel," meddai.

"Roedd yn rhaid i mi adael Wcráin oherwydd bod y rhyfel wedi cychwyn ac fe wnes i adael fy nghartref a chyrraedd Cymru. 

"I ddechrau, pan y gwnaeth byddin Rwsia gyrraedd Kyiv, fe wnaeth fy mam fynd â ni a rhedeg i orllewin Wcráin ond gan nad oes gennym ni deulu yno, fe aethom ni i'r Almaen cyn dod yma i Gymru."

Image
Elina gyda ei theulu yn Wcráin.
Elina gyda'i theulu yn Wcráin. 

'Mater o oroesi'

Does dim geiriau i egluro pa mor anodd oedd gadael Wcráin yn ôl Elina. 

"Fedra i ddim rhoi mewn i geiriau pa mor anodd oedd hi i adael Wcráin ar y dyddiau hynny oherwydd roeddem ni mewn sioc ac roedd yn fater o oroesi i ni ac fe wnaethom ni jyst adael heb feddwl.

"Mae hi mor anodd oherwydd mae mwyafrif o fy ffrindiau i yna o hyd, ac mae fy nhad a fy mrawd hŷn yn parhau yno."

Ychwanegodd ei bod hi'n "anodd iawn i bobl Wcráin oherwydd dyna ein gwlad ni, ein dinasoedd ni, mae ein teulu ni a'n ffrindiau ni i gyd yna, ac rydych chi'n gweld cannoedd o bobl yn marw bob dydd ac mae'n ofnadwy."

Er mor anodd oedd gorfod gadael, mae Elina yn hoff iawn o Gymru. 

"Dwi'n hoffi mwy neu lai bob dim yma - mae'r natur yn hyfryd ac mae'r bobl yn ffantastig, yn gyfeillgar iawn ac yn helpu lot - mae gen i rai ffrindiau yma yn barod ac mae'n grêt.

"I gymharu efo Wcráin, mae byw bywyd yng Nghymru yn fwy ymlaciol, mae'n haws i wneud ffrindiau ac mae'n fwy heddychlon i fyw yma."

Image
Elina a'i ffrindiau
Mae gan Elina hiraeth mawr am ei theulu a'i ffrindiau.

Mae Elina wedi bod yn chwarae'r piano ers yn bedair oed, ac fe wnaeth hi dreulio "ei phlentyndod i gyd" yn chwarae ac yn ymarfer, ac mae hi bellach yn ei hail flwyddyn yn astudio Cerddoriaeth mewn prifysgol yn Kyiv. 

"Dwi wrth fy modd yn chwarae mewn cyngherddau yn ogystal ag ymarfer a siarad gyda phianyddion proffesiynol.

"Dwi eisiau bod yn gerddor ac yn bianydd sydd yn chwarae mewn cyngherddau a bob dydd, dwi eisiau gwella fy sgiliau ac fy ngwybodaeth."

Roedd symud o Wcráin yn golygu bod yn rhaid i Elina fynychu ei darlithoedd prifysgol yn rhithiol, ac mae hyn wedi bod yn heriol iddi. 

"Dwi'n hoffi fy nghwrs yn fawr iawn ond dwi'n cael ambell i broblem oherwydd fy mod i'n astudio ar-lein ac mae'n rhaid i mi wneud fy arholiadau ar-lein hefyd. 

"Weithiau, mae'n anodd, ond dwi'n trio fy ngorau."

Er hyn, mae gallu ymarfer yn yr Eglwys am dair awr y dydd wedi bod o fudd mawr i Elina. 

"Dwi'n dod yma i'r Eglwys yn Llandudno i chwarae'r piano ers mis Tachwedd am tua tair awr y diwrnod fwy neu lai bob diwrnod, a dwi mor ddiolchgar fy mod i'n gallu dod yma i ymarfer a chwarae'r piano yn yr Eglwys. 

"Dwi'n ddiolchgar am y cyfle, roedd o'n bwysig iawn i mi."

Image
Elina a'i thad
Elina gyda'i thad, sydd yn parhau yn Wcráin.

'Diolchgar i Gymru'

Doedd Elina ddim yn siarad llawer o Saesneg cyn cyrraedd Cymru ym mis Medi, ac mae hi'n mynychu coleg lleol yn ddyddiol er mwyn gallu ymarfer a gwella ei Saesneg. 

"Ers mis Hydref, dwi'n mynd i goleg lleol i astudio Saesneg a dwi'n llwyddiannus oherwydd fy athrawon. Mae gen i athrawon sydd mor hyfryd, maen nhw wastad yna i fy helpu a dwi'n ddiolchgar i Gymru am y cyfle yma."

Y gobaith yn y pen draw ydy dychwelyd yn ôl i Wcráin, ond yn y cyfamser, mae Elina yn hapus ei byd yng Nghymru. 

"Mae Wcráin yn wlad fawr ac mae ganddi dipyn o bopeth... mynyddoedd, môr, ynys, dinasoedd mawr, pentrefi a lot o natur hefyd.

"Dwi'n gobeithio un diwrnod y gallai fynd yn ôl i Wcráin oherwydd dwi'n cofio yn ôl i'r amser 'nes i dreulio gyda fy nheulu a ffrindiau... roedd popeth yn dda. 

"Roedd Wcráin yn datblygu a dwi'n gobeithio yn fuan y gallaf i wneud yr un peth yn Wcráin.

"Dwi'n hapus iawn yng Nghymru, mae fy nheulu a minnau yn ddiolchgar i bobl Cymru am y croeso cynnes a chymaint y maen nhw wedi, ac yn parhau, i'n helpu."

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.