Newyddion S4C

Logo Diwrnod Cenedlaethol Myfyrdod a Tom Jones

Syr Tom Jones i gefnogi Diwrnod Cenedlaethol y Myfyrdod

NS4C 23/02/2023

Mae Syr Tom Jones wedi datgan ei gefnogaeth, a’i fwriad i fod yn rhan o'r Diwrnod Cenedlaethol o Fyfyrdod, fydd yn cael ei gynnal ar draws y wlad ym mis Mawrth.

Bydd y diwrnod yn cael ei gynnal ddydd Iau, 23 Mawrth ac mae'n cael ei drefnu gan elusen Marie Curie gyda'r bwriad o gofio am rai sydd wedi marw a chefnogi rhai sydd yn galaru. 

Dyma'r trydydd tro i Ddiwrnod Cenedlaethol o Fyfyrdod gael ei gynnal, gan yr elusen sy’n cynnig gofal ar gyfer pobl sydd yn ddifrifol wael. 

Bydd cannoedd o Waliau Myfyrdod yn cael eu harddangos yn gyhoeddus ar hyd a lled y DU ar 23 Mawrth lle y gall pobl gyfarfod i adlewyrchu am alar, gyda munud cenedlaethol o dawelwch yn cael ei gynnal. 

Mae Marie Curie yn annog ysgolion, llefydd gwaith a chymunedau i greu wal fel man i ddathlu bywydau pobl y maen nhw'n eu caru drwy rannu atgofion, lluniau a cherddi. 

'Galar'

Cafodd y diwrnod ei lansio yn 2021 ac fe wnaeth 850 o sefydliadau gymryd rhan yn y diwrnod yn 2022. 

Dywedodd Syr Tom Jones fod "colli rhywun rydych chi'n ei garu yn dorcalonnus - ac mae'n rhywbeth sydd gennym ni gyd yn gyffredin. 

"Gall galar deimlo yn drwm iawn ar adegau, a dyna pam mae Diwrrnod Cenedlaethol o Fyfyrdod Marie Curie mor bwysig. Mae'n rhoi eiliad i ni gyd i ddod at ein gilydd. 

"Mae'n rhoi moment i ni gyd ddod at ein gilydd gyda ein ffrindiau a'n teuluoedd, i gofio a dathlu pobl sydd ddim efo ni bellach."

Llun: Logo Diwrnod Cenedlaethol Myfyrdod a Tom Jones. Llun Tom Jones gan Ralph-PH (CC BY 2.0).

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.