Newyddion S4C

Ynys Enlli.png

Ynys Enlli yn derbyn statws Noddfa Awyr Dywyll Ryngwladol

NS4C 23/02/2023

Ynys Enlli yw’r ardal gyntaf yn Ewrop i dderbyn statws Noddfa Awyr Dywyll Ryngwladol.

Mae'r statws ‘Noddfa Awyr Dywyll Rynglwadol’ yn cael ei roi i leoliadau sy’n aml yn anghysbell ac ymysg y safleoedd tywyllaf yn y byd gyda "chyflwr cadwraeth fregus."

Bydd Ynys Enlli yn ymuno gydag 16 o safleoedd eraill sydd â'r statws ar draws y byd. 

Dywedodd Cadeirydd Ymddiriedolaeth Ynys Enlli, Sian Stacey, ei bod hi'n "fraint cael cyhoeddi’r newyddion am statws newydd Ynys Enlli fel Noddfa Awyr Dywyll Rhyngwladol ddydd Iau".

"Mae’n gamp anhygoel a hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y broses," meddai.

“Mae hyn yn benllanw ar flynyddoedd o waith caled gan ein tîm ni yn ogystal â’n partneriaid ar draws y rhanbarth a thu hwnt."

'Gwarchod'

Yn ôl Cyfarwyddwr y Gymdeithas Awyr Dywyll Ryngwladol, Ruskin Hartley, mae'r Gymdeithas yn "falch iawn o allu croesawu Ynys Enlli i’r gymuned o safleoedd awyr dywyll ar hyd a lled y byd".

"Mae’n golygu bod Cymru’n prysur ddod yn un o’r gwledydd mwyaf blaenllaw o ran gwarchod yr awyr dywyll fel adnodd gwerthfawr, sydd o fudd i bobl a bywyd gwyllt," meddai.

Mae'r nodweddion sydd ar Ynys Enlli, megis y ffaith fod y golau o'r tir mawr yn cael ei gyfyngu gan fynydd Enlli, yn golygu ei bod yn un o'r mannau tywyllaf yn y DU. 

Mae tystiolaeth yn awgrymu fod pobl wedi bod yn byw ar yr ynys ers yr Oes Efydd ac erbyn heddiw, mae cymuned fechan sydd yn gweithio ar y tir ac yn pysgota yn byw arni. 

Dywedodd un o wardeiniaid yr ynys, Mari Huws: "Yn dilyn sicrhau’r dynodiad newydd, rydym yn edrych ymlaen at groesawu ymwelwyr i’r ynys dros y misoedd a’r blynyddoedd nesaf i ni fedru rhannu ein stori unigryw gyda nhw."

Cafodd y cais ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru yn ogystal â Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Parc Cenedlaethol Eryri, Cyngor Cymuned Aberdaron, Cyfoeth Naturiol Cymru a Chyngor Gwynedd. 

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.