Newyddion S4C

£5.4 miliwn ar gyfer Amgueddfa Bêl-droed newydd i Gymru yn Wrecsam

£5.4 miliwn ar gyfer Amgueddfa Bêl-droed newydd i Gymru yn Wrecsam

NS4C 21/02/2023

Bydd Wrecsam yn “elwa yn anferthol” o fuddsoddiad ychwanegol o £5.45m i ddatblygu Amgueddfa Bêl-droed newydd Cymru.

Mae'r arian ychwanegol yn rhan o gytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.

Gwnaeth Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden y cyhoeddiad ar ymweliad â'r ddinas ac fe ddaw ar adeg pan fo diddordeb mewn pêl-droed yng Nghymru yn uwch nag erioed.

Bydd yr amgueddfa, a fydd wedi ei lleoli o fewn Amgueddfa Wrecsam ar ôl i'r adeilad gael ei ailddatblygu'n sylweddol, yn dathlu treftadaeth bêl-droed Cymru. Y gobaith yw bydd yr amgueddfa yn cael ei hagor cyn 2026.

“Y lleoliad delfrydol”

Dywedodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden: "Wrecsam yw man geni pêl-droed Cymru, felly dyma'r lleoliad delfrydol i ddathlu treftadaeth y gamp. Bydd yr amgueddfa newydd yn dod yn lleoliad allweddol yn y ddinas ac yn ychwanegu at yr hyn y mae’r Gogledd yn ei gynnig i dwristiaid ac ymwelwyr.”

Bydd yr amgueddfa bêl-droed yn arddangos themâu gwahanol, gan gynnwys cymunedau Cymraeg, diwylliant cefnogwyr, cymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, a phrofiadau LHDTC+.

Ers 2020, mae mwy nag £800,000 o gyllid gan Lywodraeth Cymru eisoes wedi helpu i benodi Curadur Pêl-droed ymroddedig a Swyddogion Ymgysylltu, i ddatblygu cynlluniau ac ymgynghori gyda’r gymuned leol.

Image
Amgueddfa Pel Droed

Treftadaeth

Dywedodd yr Aelod Dynodedig, Siân Gwenllian ar ran Plaid Cymru : “Roedd cynnwrf Yma o Hyd wedi lledaenu ar draws Cymru ac ar draws y byd y llynedd gyda’n tîm cenedlaethol yn cyrraedd Cwpan y Byd. Dangosodd hyn y balchder a’r mwynhad y mae pêl-droed wedi’u rhoi i ni yn ddiweddar a pha mor bwysig ydyw i Gymru.

"Bydd yr amgueddfa hon ar ei newydd wedd yn dathlu cyfraniad ein cenedl i'r gêm a'r dreftadaeth a'r etifeddiaeth y mae'n eu darparu ar ein cyfer i gyd.”

Dywedodd y Cynghorydd Paul Roberts, Aelod Arweiniol Partneriaethau a Diogelwch Cymunedol Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam:  "Mae hwn yn brosiect cyffrous iawn gan fod pêl-droed yn chwarae rhan mor fawr yn ein diwylliant a'n hunaniaeth a gall pobl Wrecsam a ledled Cymru nawr fod yn sicr y bydd Casgliad Pêl Droed Cymru yn cael ei gadw ar gyfer y genhedlaeth bresennol a chenedlaethau'r dyfodol yng Nghymru.”

Dywedodd y Cynghorydd Marc Jones: “Mae ‘na hanes yn y lle – dyma le grëwyd Cymdeithas Bêl-droed Cymru, dyma gartref y stadiwm ryngwladol hynaf yn y byd, y trydydd clwb hynaf yn y byd – felly mae’r hanes yna.

“Mae’r holl sylw sydd yn digwydd ar hyn o bryd yn anhygoel. Mae ‘na gymaint o bobl yn dod yma just er mwyn dweud eu bod nhw ‘di bod i’r Turf, dweud bod nhw wedi bod i Wrecsam oherwydd y rhaglen deledu.

“Dw i’n meddwl bydd Wrecsam yn elwa yn anferthol o gael Amgueddfa Pêl-droed penodol yma, bydd yn helpu denu mwy o bobl i dreulio amser yma, aros yma a falle gwario dipyn bach fwy o bres yn y dref.“

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.