Rhybuddion gan Geidwadwyr i Rishi Sunak dros brotocol Gogledd Iwerddon

Mae rhai Ceidwadwyr blaenllaw wedi rhybuddio Rishi Sunak i beidio ag arwyddo cytundeb newydd ar Brotocol Gogledd Iwerddon gyda'r Undeb Ewropeaidd rhag corddi'r DUP.
Bu cyfarfod rhwng swyddogion o Lywodraeth y DU a'r Undeb Ewropeaidd dros y penwythnos er mwyn ceisio datrys problemau yn gysylltiedig â'r Protocol.
Mae plaid unoliaethol y DUP wedi gwrthod cydweithio gyda'r sefydliad datganoledig ym Melfast mewn protest yn erbyn y Protocol, sydd yn creu ffin ar gyfer nwyddau rhwng Gogledd Iwerddon a gweddill y DU.
Mae'r sefyllfa wedi gadael y rhanbarth heb lywodraeth ers mis Chwefror y llynedd.
Ond mae yna adroddiadau bod cytundeb rhwng y DU a'r UE fyddai'n llacio rhai o'r cyfyngiadau o fewn y protocol ar fin cael ei arwyddo.
O ganlyniad mae'r posibilrwydd o gytundeb wedi codi pryderon ymysg rhai o aelodau'r Blaid Geidwadol a'r DUP.
Yn ôl rhai Torïaid sydd yn gefnogol i Brexit, mae yna beryg bod y DU yn ildio gormod o dir i swyddogion ym Mrwsel.
Dywedodd Syr Bernard Jenkin y byddai'r cytundeb newydd yn "drychineb llwyr" os nad yw'n sicrhau bod y DUP yn barod i gydweithio fel rhan o lywodraeth yn Stormont.
"Os nad yw'n derbyn cefnogaeth gan y ddwy gymuned yng Ngogledd Iwerddon mae jyst yn mynd i waethygu pethau," meddai.
"Mae'n mynd i gadarnhau cytundeb sydd wedi difetha llywodraethu yng Ngogledd Iwerddon."
Ychwanegodd Sammy Wilson, prif chwip y DUP yn San Steffan, nad yw'n disgwyl cytundeb i ddod yr wythnos hon.
"Os bydd cytundeb yn cael ei gytuno sydd yn cadw ni o fewn marchnad sengl yr UE, fel gweinidogion yng Nghynulliad Gogledd Iwerddon rydym yn gyfrifol yn ôl y gyfraith i weithredu ar y cytundeb a dydyn ni ddim yn mynd i wneud hynny oherwydd rydym yn credu bod cytundeb fel yna wedi'i ddylunio i'n tynnu ni allan o'r DU.
"Rydym yn Brydeinig ac rydym yn disgwyl i ddilyn cyfreithiau Prydeinig, nid rhai o Frwsel.
"Ni fyddwn yn cydweithio i weithredu cyfraith Brwsel yn ein rhan ni o'r Deyrnas Unedig."