Ffermwr wedi marw a’i fab yn ddifrifol wael wedi digwyddiad ger Machynlleth
Ffermwr wedi marw a’i fab yn ddifrifol wael wedi digwyddiad ger Machynlleth

Mae ffermwr wedi marw ac mae ei fab yn yr ysbyty yn dilyn digwyddiad ar fferm ger Machynlleth ym Mhowys ddydd Gwener.
Bu farw Iwan Evans a chafodd ei fab Dafydd anafiadau difrifol yn y ddamwain ar fferm Cleiriau Isaf yn Aberhosan.
Mae'r mab, Dafydd Evans, sydd yn ei 40au, yn derbyn triniaeth yn Ysbyty Brenhinol Stoke. Deallir nad yw ei fywyd mewn perygl.
Roedd y gwasanaethau brys gan gynnwys y gwasanaethau tân ac ambiwlans wedi mynd i'r fferm.
Dywedodd y Cyngor Iechyd a Diogelwch eu bod nhw hefyd wedi ymweld â’r fferm a bod ymchwiliad yn parhau.
Dywedodd y cynghorydd lleol Elwyn Vaughan: "Mae hyn yn sioc ac yn fraw o glywed y newyddion ac yn dristwch mawr i’r gymuned amaethyddol gyfan sy’n glos iawn ac yn ddios fydd yn rhoi cefn i’r teulu yn ystod y dyddiau a’r wythnosau nesaf.
"Hen deulu amaethyddol lleol, yn weithgar yn lleol ac wrth gwrs Dafydd y mab yn aelod o’r cyngor cymuned ac ati yn weithgar yn ei gymuned, yn aelod o gôr Machynlleth ac felly yn adnabyddus iawn trwy’r ardal gyfan."
Mae Dafydd Evans yn aelod o gôr meibion Machynlleth a gohiriwyd cyngerdd yn Ninas Mawddwy nos Sadwrn fel arwydd o barch.
Dywedodd Aled Griffiths, aelod o’r côr ac asiant i Undeb Cenedlaethol y Ffermwyr: “Mae hyn yn sefyllfa hynod drist ac mae’r holl ardal mewn sioc.”