Newyddion S4C

Dai Lloyd Evans

Teyrngedau i gyn-arweinydd Cyngor Sir Ceredigion Dai Lloyd Evans

NS4C 17/02/2023

Mae teyrngedau wedi eu talu i gyn-arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, Dai Lloyd Evans.

Bu'r dyn a oedd yn arweinydd y cyngor am ddeng mlynedd rhwng 1998 a 2008 farw yn 82 oed.

Cynghorydd dros Lledrod yng nghanol y sir oedd cyn cael ei benodi'n arweinydd y grŵp annibynnol.

Cafodd ei eni yn Llanddeiniol, cyn symud i Ystrad Meurig a Swyddffynnon.

Mi oedd yn ffermwr ac wedi priodi bu'n ffermio ym Mhenrallt, Tregaron ac yna fferm Pentre Gwnnws yn Nhyngraig am flynyddoedd. 

'Parch mawr'

Un oedd yn ei nabod yn dda oedd Charles Arch o Bontrhydfendigaid, a wnaeth gynnig teyrnged iddo ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru.

"Fe welais i'n syth fod e yn fachgen oedd yn mynd i fynd yn bell, ac wrth gwrs dyna ddigwyddodd," meddai. 

"O fewn dim, fe oedd arweinydd y cyngor ac mae gen i a phawb yn yr ardal parch mawr i Dai. Roedd e yn gadarn ei farn ac yn bob amser yn sefyll yn gadarn tu ôl i bob peth oedd e'n gweud.

"Yn anffodus fe gollon ni rywun oedd â gweledigaeth mawr gydag e.

"Fydden i'n gobeithio fydde pawb yn cofio Dai fel dyn oedd a barn gadarn a fel dyn oedd yn helpu bob cymuned a helpu pob unigolyn. Fedrai neb mynd at Dai a gofyn am help a ddim ei gael e."

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.