Newyddion S4C

Car clyfar

‘Dim goleuadau traffig mewn 20-30 mlynedd’ diolch i geir clyfar

NS4C 17/02/2023

Mae'n bosib na fydd yna oleuadau traffig mewn 20-30 mlynedd diolch i geir clyfar, yn ôl peiriannydd blaenllaw.

Dywedodd Thomas Tompkin o Smart Mobility Living Lab y bydd ceir clyfar yn arwain at “newid sylfaenol yn ein ffyrdd”.

Mae wedi bod yn cadw golwg ar ddau gar clyfar sydd wedi bod yn cwblhau cannoedd o lapiau ar ffyrdd prysur yn Woolwich yn ne-ddwyrain Llundain er mwyn casglu data ar y rhwystrau posib.

Dyma’r prawf cyntaf o’r dechnoleg ceir di-yrrwr ar ffyrdd y Deyrnas Unedig. Mae gan bob car yrrwr y tu ôl i’r olwyn rhag ofn y bydd rywbeth yn mynd o’i le.

'Lot o waith'

Mae Smart Mobility Living Lab wedi gosod 270 o gamerâu ar hyd y ffordd er mwyn casglu gwybodaeth ynglŷn â sut y mae’r ceir yn ymateb i’r rhwystrau o’u blaenau, meddai Thomas Tompkin.

“Mewn 20 i 30 mlynedd bydd modd dechrau meddwl am ba isadeiledd fydd ei angen,” meddai.

“A fydd hi’n bosib dechrau cael gwared ag isadeiledd fel goleuadau traffig?

“Yn amlwg fe fydd yna lot o waith i’w wneud cyn hynny. Ond fe allwn ni weld newid sylfaenol yn y modd y mae ffyrdd wedi eu gosod.”

Dywedodd gweinidog trafnidiaeth Llywodraeth y DU, Jesse Norman, eu bod nhw wedi buddsoddi £7m yn yr arbrawf.

“Mae’n allweddol er mwyn datrys sut y bydd cerbydau sy’n eu gyrru eu hunain yn cael eu hintegreiddio i mewn i’n dinasoedd er budd y cyhoedd.”

Llun: Charly W. Karl (CC BY-ND 2.0).

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.