Newyddion S4C

Arestio pedwar yn dilyn gwrthdrawiad yn Llandudno

29/01/2023
Heddlu.

Mae pedwar o bobl wedi eu harestio yn dilyn gwrthdrawiad yn Llandudno nos Sadwrn.

Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng VW Polo du a cherddwr ar Lôn Crogfryn yn Llanrhos am tua 23:30.

Mae dyn 48 oed wedi derbyn anafiadau sydd yn peryglu ei fywyd ac ar hyn o bryd mae'n derbyn triniaeth yn yr ysbyty.

Fe adawodd y VW Polo man y ddamwain cyn i'r heddlu gyrraedd.

Mae Heddlu'r Gogledd yn dweud bod VW Polo du wedi bod mewn gwrthdrawiad arall y tu allan i Lys Ynadon Llandudno ar Ffordd Conwy am tua 23:40.

Mae'r llu yn gofyn i unrhyw un oedd yn ardal Lôn Crogfryn neu sydd â deunydd fideo camera dashfwrdd neu gamera gylch cyfyng o'r gwrthdrawiad neu'r gwrthdrawiad diweddarach ar Ffordd Conwy i gysylltu â nhw gan ddefnyddio cyfeirnod 23000083668.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.