Newyddion S4C

Wrecsam yn gorfod chwarae eto ar ôl gêm gyfartal yng Nghwpan yr FA

29/01/2023
Wrecsam v Notts County

Mae Wrecsam wedi methu cyfle i gyrraedd pumed rownd Cwpan yr FA ar ôl ildio gôl hwyr mewn gêm gyfartal yn erbyn Sheffield United.

Aeth y Dreigiau mewn i’r egwyl ar ei hôl hi yn dilyn gôl yn y munud gyntaf gan Oli McBurnie.

Yn yr ail hanner, aeth Wrecsam ar y blaen diolch i ddoniau Jordan Jones a Thomas O’Connor cyn i Oliver Norwood daro 'nôl i’r ymwelwyr.

Roedd cefnogwyr y Cae Ras yn credu eu bod wedi creu hanes gyda phum munud i fynd, wrth i Paul Mullin roi Wrecsam ar y blaen.

Ond ni wnaeth y tîm cartref ddal ymlaen yn y munudau olaf, wrth i John Egan sgorio yn ystod amser ychwanegol.

Gêm a hanner

Fe fydd Wrecsam nawr yn teithio i Bramall Lane i wynebu Sheffield United eto er mwyn cystadlu am eu lle yn y gystadleuaeth.

Wrecsam yw’r unig dîm o Gymru ac o’r Gynghrair Genedlaethol ar ôl yn y gystadleuaeth.

Roedd y Cae Ras yn llawn ar gyfer y gêm fawr, wedi i docynnau werthu allan o fewn 25 munud.

Ymhlith y dorf roedd y cyd-berchennog Ryan Reynolds, gyda’r seren Hollywood yn gwylio’n ofalus wrth i’r Dreigiau geisio cyrraedd pumed rownd Cwpan yr FA am y tro cyntaf ers 1981.

Ond ni wnaeth Sheffield United ddilyn y sgript i ddechrau’r gêm.

Ychydig wedi munud o chwarae, aeth yr ymwelwyr ar y blaen wrth i Oli McBurnie benio’r bêl i’r gornel uchaf yn dilyn cic gornel.

Gyda’r ergyd o ildio dal yn ffres, aeth pethau o ddrwg i waeth i Wrecsam.

Cafodd yr amddiffynnwr Jordan Tunnicliffe ei dynnu o’r cae ar ôl cael ei anafu yn dilyn y gôl.

Ychydig funudau wedyn fe wnaeth amddiffynnwr arall, Aaron Hayden, adael y cae gydag anaf i’w bigwrn.

Er gwaethaf y sialensiau, roedd Wrecsam yn gystadleuol trwy gydol yr hanner cyntaf, gan herio tîm sydd dwy gynghrair yn uwch.

Er hyn, roedd yn rhaid aros tan yr ail hanner ar gyfer eu gôl gyntaf.

Ni wnaeth Wrecsam wastraffu unrhyw amser ar ôl ail-ddechrau, wrth i Jordan Jones, a ddaeth ymlaen yn lle Hayden, rwydo yn dilyn cornel.

Parhaodd y Dreigiau i roi pwysau ar Sheffield United, ac ar ôl awr o chwarae aeth y tîm cartref ar y blaen.

Tro yma o gic gornel, gyda Thomas O’Connor yn rhwydo a’r Cae Ras yn ffrwydro.

Ond ni wnaeth Wrecsam aros ar y blaen am yn hir, wrth i Oliver Norwood rwydo o fewn pum munud.

Daeth rhagor o ddrama ar ôl 70 munud wrth i Daniel Jebbison, un o brif fygythiadau ymosodol Sheffield United, dderbyn cerdyn coch am ddigwyddiad oddi ar y bêl.

A gyda phum munud i fynd fe wnaeth Wrecsam fanteisio ar eu dyn ychwanegol.

Paul Mullin, a oedd yn fygythiad trwy gydol y gêm, a dderbyniodd y bêl yng nghanol y cwrt cosbi a gyda hynny yn troi’r Cae Ras yn wyllt.

Er hynny, nid oedd modd i Wrecsam wrthsefyll Sheffield United yn y munudau olaf, wrth i John Egan rwydo yn dilyn cic gornel yn ystod amser ychwanegol.

Nid yw breuddwyd Cwpan yr FA Wrecsam ar ben hyd yn hyn, ac fe fydd y tîm yn teithio i Bramall Lane ym mis Chwefror gyda chyfle arall i greu hanes.

Llun: CPD Wrecsam

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.