Newyddion S4C

Gwasanaeth Carchardai Yr Alban i gynnal 'adolygiad brys' o garcharorion traws

29/01/2023
Isla Bryson

Mae Gwasanaeth Carchardai Yr Alban wedi cyhoeddi y bydd yn gwneud "adolygiad brys" o bob carcharor trawsryweddol yn y system. 

Ni fydd unrhyw garcharorion trawsryweddol yn cael eu symud tra bod yr adolygiad yn cael ei gyflawni. 

Daw hyn yn dilyn dadlau dros achos Tiffany Scott, a gafodd gais i symud i garchar ar gyfer menywod ei gymeradwyo'r wythnos hon. 

Cafodd Ms Scott ei chyhuddo o stelcian merch 13 oed tra oedd yn cael ei hadnabod fel Andrew Burns.  Fe wnaeth Ms Scott newid ei rhywedd cyn ei hachos llys. 

Yn gynharach yn yr wythnos, bu anghydfod ynglŷn ag achos Isla Bryson, menyw trawsryweddol a gafodd ei chyhuddo o dreisio dwy fenyw cyn iddi newid ei rhywedd. 

Yn wreiddiol, cafodd Ms Bryson ei chadw mewn carchar ar gyfer menywod cyn cael ei symud i adran o garchar ar gyfer dynion. 

Mae Ysgrifennydd Cyfiawnder Yr Alban, Keith Brown, bellach wedi cyhoeddi ni fydd unrhyw garcharor trawsryweddol gyda hanes o drais yn erbyn menywod yn cael eu carcharu gyda menywod. 

Fel rhan o'r polisi, a fydd yn parhau tan i'r gwasanaeth carcharu gyflawni'r adolygiad, ni fydd unrhyw garcharor trawsryweddol presennol yn symud rhwng carchardai. 

"Dwi'n deall bod y mater o unrhyw fenyw trawsryweddol yn cael ei chyhuddo o droseddau treisgar neu rywiol yn bwnc emosiynol iawn," meddai Mr Brown. 

"Fel dywedodd y Prif Weinidog wythnos diwethaf, ni allwn alluogi i'r awgrym bod menywod traws yn peri peryg greddfol i fenyw i ffynnu.

"Dwi'n gobeithio y bydd y mesurau rydw i'n cyflwyno yn tawelu meddyliau ynglŷn â gallu'r gwasanaeth carchardai i reoli unigolion trawsryweddol a sicrhau diogelwch pob carcharor."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.