Newyddion S4C

Capten rygbi Cymru yn cymryd rôl hyfforddi gyda Phrifysgol y Drindod Dewi Sant

29/01/2023
Ken Owens / Cymru / Llun Huw Evans

Mae capten rygbi Cymru, Ken Owens, wedi ymuno â staff hyfforddi academi chwaraeon Prifysgol y Drindod Dewi Sant. 

Fe fydd Owens, sydd wedi ennill 86 o gapiau i Gymru a chynrychioli'r Llewod, yn gweithio fel hyfforddwr gwirfoddol gyda thîm rygbi dynion y brifysgol. 

Bydd y bachwr yn gweithio'n benodol gyda blaenwyr y tîm, gan rannu'r wybodaeth helaeth mae wedi casglu yn ystod ei yrfa. 

Dyma fydd rôl hyfforddi swyddogol gyntaf Owens, sydd eisoes wedi dechrau astudio i fod yn hyfforddwr wrth iddo feddwl am fywyd ar ôl chwarae rygbi. 

Dywedodd chwaraewr y Scarlets, a fydd yn arwain Cymru fel capten am y tro cyntaf yn ystod y Chwe Gwlad, ei fod yn "ddiolchgar am y cyfle i ddechrau ar fy nhaith hyfforddi."

"Rwy’n edrych ymlaen yn eiddgar at weithio gyda phawb yn y Brifysgol.

"Mae’n adeg gyffrous yn yr Academi Chwaraeon, a gobeithio y bydda i’n gallu ychwanegu gwerth at ei datblygiad, a helpu’r myfyrwyr i wireddu eu potensial ar y cae ac oddi arno.”

Dywedodd Gareth Potter, Pennaeth Rygbi Academi Chwaraeon y brifysgol, ei bod yn "adeg gyffrous" i'r tîm. 

"Mae Ken yn ymgorffori popeth mae’r Brifysgol, a rygbi yn y Brifysgol, yn sefyll drosto – Cymreictod, cymuned a rhagoriaeth.

"Mae eisoes wedi cael effaith fawr ar y sesiynau mae e wedi’u rhedeg, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at ei groesawu e’n ôl pan fydd e wedi arwain Cymru drwy’r Chwe Gwlad eleni.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.