Novak Djokovic yn ennill yr Australian Open
Mae Novak Djokovic wedi ennill yr Australian Open, union flwyddyn ers iddo gael ei alltudio o'r wlad.
Fe wnaeth y seren tenis o Serbia, sydd yn rhif pump ar rhestr detholion y byd, drechu Stefanos Tsitsipas 3-6 6-7 6-7 yn Melbourne ddydd Sul.
Dyma'r degfed tro i Djokovic ennill y bencampwriaeth, ac mae erioed wedi colli yn rownd derfynol y gystadleuaeth.
Mae ei fuddugoliaeth hefyd yn cynrychioli'r 22ain tro i Djokovic ennill Grand Slam, gan ddod yn gyfartal â record Rafael Nadal am y nifer fwyaf o bencampwriaethau gan chwaraewr gwrywaidd.
Daw'r fuddugoliaeth union flwyddyn ers i Djokovic gael ei wahardd rhag cystadlu yn y gystadleuaeth a'i alltudio o Awstralia.
Cafodd fisa Djokvoic ei ganslo yn 2022 wrth i lywodraeth Awstralia ddweud ei fod yn berygl i iechyd cyhoeddus am nad oedd wedi ei frechu yn erbyn Covid.