Newyddion S4C

Diddymu uned heddlu wedi marwolaeth Tyre Nichols

29/01/2023
Tyre Nichols

Mae uned o Heddlu Memphis yn yr UDA wedi'i diddymu ar ôl i'w swyddogion gael eu cyhuddo o lofruddio Tyre Nichols. 

Bu farw Mr Nichols, 29, ar ôl cael ei arestio gan aelodau'r uned 'Scorpion' ar 7 Ionawr. 

Mae Scorpion yn sefyll am 'Ymgyrch Troseddau ar y Stryd er mwyn Adfer Heddwch yn ein Cymdogaethau.'

Roedd 50 o heddweision yn gweithio o fewn yr uned, gyda'r bwriad o leihau lefelau trosedd mewn ardaloedd penodol. 

Bellach mae'r uned wedi'i diddymu, wedi i bum heddwas gael eu cyhuddo o lofruddiaeth ymysg troseddau eraill fel ymosodiad, herwgipio a chamymddygiad swyddogol. 

Cafodd fideo ei rhyddhau nos Wener yn dangos y swyddogion yn pwnio, cicio a churo Mr Nichols gyda baton. Bu farw Mr Nichols o'i anafiadau dridiau ar ôl yr arést. 

Dywedodd y swyddogion eu bod wedi'i arestio ar amheuaeth o yrru'n ddiofal, ond dywedodd Pennaeth Heddlu Memphis, Cerelyn Davies, nad yw hynny wedi'i gadarnhau.

Mewn datganiad, dywedodd Heddlu Memphis ei fod "er budd pawb" i gael gwared ar yr uned Scorpion. 

Yn ogystal â chael eu harestio, mae'r pum heddwas - Tadarrius Bean, Demetrius Haley, Desmond Mills Jr, Emmitt Martin III a Justin Smith - wedi'u diswyddo o'r llu. 

Allan o'r pum swyddog, mae Mr Martin a Mr Mills wedi pledio'n ddieuog i'r cyhuddiadau yn eu herbyn. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.