Nadhim Zahawi wedi'i ddiswyddo fel cadeirydd y Blaid Geidwadol
Mae Nadhim Zahawi wedi'i ddiswyddo fel cadeirydd y Blaid Geidwadol yn dilyn yr anghydfod dros ei faterion treth.
Dywedodd y Prif Weinidog, Rishi Sunak, mewn llythyr at Mr Zahawi ei bod yn "amlwg bod rheolau'r cod ymddygiad ar gyfer gweinidogion wedi'i dorri'n ddifrifol."
Mae Mr Zahawi wedi dod o dan bwysau i gamu lawr yn ystod yr wythnos diwethaf yn sgil honiadau ei fod wedi ceisio osgoi talu ei drethi.
Roedd rhaid i'r cyn-ganghellor dalu dirwy gwerth £5 miliwn er mwyn datrys anghydfod treth gydag Adran Gyllid a Thollau Ei Fawrhydi.
Yn sgil yr honiadau, mae'r gwrthbleidiau wedi galw ar Mr Zahawi i golli ei swydd fel cadeirydd y Blaid Geidwadol a'r gweinidog heb bortffolio.
Dydd Mawrth, fe wnaeth Rishi Sunak gyhoeddi y bydd ymchwiliad swyddogol yn cael ei gynnal ynglŷn â materion treth Mr Zahawi.
Yn dilyn yr ymchwiliad, dywedodd y prif weinidog ei fod yn amlwg bod Mr Zahawi wedi torri rheolau'r cod ymddygiad ac y dylai adael ei rôl o fewn y llywodraeth.
Yn ôl adroddiad gan yr ymgynghorydd annibynnol ar ddiddordebau gweinidogion, Syr Laurie Magnus, nid oedd Mr Zahawi wedi dangos digon o barch at y cod ymddygiad oedd yn gofyn gweinidogion i fod yn "onest, agored, ac yn arweinwyr teilwng trwy eu hymddygiad."
Yn dilyn ei ddiswyddiad, dywedodd Mr Zahawi mewn llythyr at y prif weinidog fod Mr Sunak yn gallu "dibynnu ar ei gefnogaeth o'r meinciau gefn."
Bu'r cyn-ganghellor hefyd yn beirniadu'r ymateb i'r stori gan y cyfryngau.
Dywedodd: "Yn ystod wythnos pryd cafodd AS ei ymosod ar yn gorfforol, dydw i methu gweld sut mae un pennawd ar y mater - 'Y Dolen yn Tynhau' - yn cynrychioli craffu teg o swyddogion cyhoeddus.
"Mae'n ddrwg gen i i fy nheulu am y effaith mae hyn wedi cael."