Newyddion S4C

Prif weithredwr Undeb Rygbi Cymru yn ymddiswyddo

29/01/2023

Prif weithredwr Undeb Rygbi Cymru yn ymddiswyddo

Mae prif weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Steve Phillips, wedi ymddiswyddo yn sgil honiadau o "ddiwylliant gwenwynig" o fewn yr undeb.

Roedd rhaglen BBC Wales Investigates a ddarlledwyd ddydd Llun yn cynnwys honiadau o hiliaeth, rhagfarn rhyw a chasineb at fenywod yn erbyn yr undeb. 

Daeth nifer o alwadau ar Mr Phillips i gamu lawr wedi i ddwy fenyw ddweud eu bod nhw wedi ystyried lladd eu hunain ar ôl dioddef rhywiaeth honedig a bwlio o fewn y sefydliad.

Yn sgil yr honiadau, fe wnaeth y rhanbarthau gefnogi llythyr yn galw ar Steve Phillips a bwrdd rheoli cyfan URC i ymddiswyddo. 

Cafodd y bwrdd hefyd ei wahodd i gwrdd â phwyllgor Seneddol er mwyn trafod yr honiadau. 

'Ymroddiad'

Yn gynharach yr wythnos hon fe wnaeth Steve Phillips ymddiheuro am yr honiadau ond fe wrthododd ag ymddiswyddo, gan fynnu mai fe oedd y person cywir i arwain yr undeb. 

Ond mewn datganiad fore Sul, dywedodd Steve Phillips ei fod yn “amser i rywun arall arwain”.

“Mae’r hyn sydd orau i rygbi Cymru wedi bod wrth galon popeth ydw i wedi ei wneud, ond rydw i wedi dod i’r casgliad ei fod yn bryd i rywun arall gymryd yr awenau.

“Mae’n gamp yr ydw i’n ei charu ac mae pobl o amgylch y byd yn ei hedmygu ac rydw i’n dymuno pob llwyddiant a dymuniadau gorau i bawb o amgylch y byd.

“Rydw i’n cytuno yn llwyr gydag ymroddiad Ieuan [Evans] i edrych eto ar ddiwylliant ac ymddygiad yn URC ac yn llwyr gefnogi ffurfio tasglu annibynnol newydd.”

Mae Nigel Walker, a oedd yn gyfarwyddwr perfformiad, wedi'i benodi fel prif weithredwr dros dro tra bod yr undeb yn chwilio am bennaeth newydd parhaol.

'Cyfle am newid' 

Mewn ymateb i'r newyddion, dywedodd cyn-chwaraewr Cymru, Caryl James, fod ymddiswyddiad Mr Phillips yn cynrychioli "cyfle am newid i'r gwell." 

"Mae wedi bod yn wythnos anodd i bawb, wythnos trist mewn ffordd."

"Y peth cyntaf fyddwn i'n dweud yw ma'n rhaid rhoi'n gywir yw'r diwylliant a sicrhau bod 'na lais gan bawb.

"Rygbi yw rygbi, a mae'n rygbi i bawb.

"Mae'n bwysig nawr er bod Nigel Walker wedi gwneud newidiadau gwych i gêm y menywod yn ddiweddar mae 'na lot mwy i wneud, a mae'r problemau sydd yn bodoli ar hyn o bryd yn ddwfn iawn.

"Mae'n rhaid dod i wraidd y problemau a rhoi nhw'n iawn."

Wrth siarad ar BBC Radio Wales bore Sul, dywedodd cadeirydd URC, Ieuan Evans, y bydd "newidiadau sylweddol" yn cael eu gwneud o fewn yr undeb. 

"Ni yn mynd i daclo hyn yn uniongyrchol...yn rhan gyntaf o wella yw cyfaddef bod yna broblem," meddai. 

"Does dim amheuaeth bod rygbi yng Nghymru yn wynebu argyfwng enfawr."

Ychwanegodd Mr Evans nad yw'n bwriadu ymddiswyddo, a bydd gweddill bwrdd URC yn aros ymlaen am y tro. 

Ond dywedodd fe fydd y bwrdd yn cynnal cyfarfod cyffredinol brys ym mis Mawrth er mwyn perswadio clybiau Cymru i bleidleisio o blaid sefydlu cadeirydd annibynnol ar gyfer yr undeb. Fe wnaeth y clybiau bleidleisio yn erbyn y newid yn ystod cyfarfod ym mis Hydref 2022. 

"Ar hyn o bryd, mae rhaid i mi arwain y newid yma a gweithio llaw yn llaw gyda Nigel Walker," meddai. 

"Rydym yn cymryd cyfrifoldeb fel bwrdd ac fe fyddwn yn cynnig newidiadau sylweddol i'r system llywodraethau mewn cyfarfod cyffredinol brys ym mis Mawrth. 

"Fy nghred yw bod angen cadeirydd annibynnol ar y sefydliad a byddaf yn gwthio hyn ymlaen. Mae'r diwrnod o newidiadau graddol tu ôl i ni."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.