Newyddion S4C

Pryder am ddyfodol gwasanaethau bysiau gwledig yng Ngheredigion

Newyddion S4C 27/01/2023

Pryder am ddyfodol gwasanaethau bysiau gwledig yng Ngheredigion

Mae yna bryder am ddyfodol gwasanaethau bysiau gwledig yng Ngheredigion.

Mae rhai teithwyr wedi dweud wrth raglen Newyddion S4C bod newidiadau diweddar i amserlenni yn golygu na allan nhw gyrraedd y gwaith ar amser a’u bod yn teimlo’n ynysig ac yn ofidus.

Cyn y Nadolig fe gyhoeddodd Cyngor Ceredigion newidiadau i chwe gwasanaeth sy’n derbyn cymhorthdal ​​o ddechrau mis Ionawr.

Yr wythnos hon mae cwmni bysiau lleol wedi cyhoeddi toriadau pellach i dri llwybr arall sydd ddim yn derbyn cymorthdaliadau - bydd y newidiadau hyn yn dod i rym ddiwedd Ionawr.

'Ymateb i'r galw'

Mewn datganiad dywedodd Cyngor Ceredigion fod tendrau gan gwmnïau bysiau yn dangos cynnydd sylweddol mewn costau sydd wedi arwain at geisiadau am “gynnydd sylweddol mewn lefelau cymhorthdal…ar adeg pan fo cyllid cyhoeddus dan bwysau aruthrol.”

Ychwanegodd y cyngor fod y costau uwch yn cynnwys prisiau tanwydd a chostau cynnal a chadw, a bod gostyngiad hefyd wedi bod yn nifer y teithwyr a newid i arferion teithio sydd yn lleihau incwm cwmniau bysiau.

Ers diwedd Rhagfyr mae tri gwasanaeth oedd yn derbyn sybsidi wedi dod i ben yn gyfan gwbl - gwasanaeth cylchol Tregaron, y llwybrau o Benrhyn-coch i Bontrhydybeddau ac Aberystwyth i Bontarfynach.

Roedd rhain yn wasanaethau ‘ymateb i’r galw’ ac mae’r Cyngor yn dweud oherwydd “y lefel isel iawn o ddefnydd…(ro’n nhw’n derbyn) lefelau anhyfyw o gymhorthdal ​​cyhoeddus fesul siwrnai teithiwr.”

Ar dri llwybr arall, a oedd yn derbyn cymhorthdal, mae bysiau bellach yn rhedeg yn llai aml na'r llynedd - rhain yw’r gwasanaethau o Aberystwyth i Bonterwyd, i Benrhyn-coch, ac i Lambed trwy Dregaron.

Ddydd Llun fe gyhoeddodd cwmni Mid Wales Travel newidiadau i dri o'i lwybrau sydd ddim yn derbyn cymhorthdal ​​gan y Cyngor - o ddiwedd Ionawr, bydd nifer y teithiau o ganol tref Aberystwyth i gampws y brifysgol, i'r Borth ac Ynyslas, a gwasanaeth cylchol Penparcau yn haneru mewn nifer.

'Gwarthus'

Mae llawer o deithwyr wedi gadael negeseuon ar gyfryngau cymdeithasol yn mynegi gofid ac anfodlonrwydd gyda'r newidiadau.

Dywedodd Richard Williams, sy’n byw ger Llanbedr Pont Steffan: “Mae’n warthus - byddwn i’n herio unrhyw un yn y cyngor sir i fynd heb eu car am wythnos ac i geisio mynd o gwmpas y lle hwn.

"Mae cymydog i mi, sy'n gweithio yn Llambed, yn methu mynd i’r gwaith ar y bws nawr ac mae'n gorfod dibynnu ar ewyllys da ei chymydog 78 oed i fynd â hi.

“Ac i bobl ifanc sydd eisiau mynd i weld eu ffrindiau does dim bws yma nawr ar ddydd Sadwrn - so mae’r penwythnos yn ynysig iawn yma.”

Dywedodd Catriona Yule o’r Borth: “Mae’n mynd i effeithio ar lawer o bobl yn y pentref lle dwi’n byw. Mae siawns hefyd y bydd y feddygfa yn cau ac mae meddwl am gael apwyntiadau sy'n cyd-fynd ag amserlen bws dwy awr yn frawychus iawn.

"Rwy’n defnyddio’r bws yn aml, dair neu bedair gwaith yr wythnos, ac mae’n mynd i wneud gwahaniaeth mawr."

Mae pobl yn y Borth wedi dechrau deiseb i wrthwynebu’r toriadau i’r gwasanaeth yn y pentref. 

Dywedodd Mel Evans, perchennog Mid Wales Travel, nad oes gan y cwmni unrhyw ddewis ond lleihau’r gwasanaethau oherwydd y cynnydd enfawr mewn costau: "Gydag un o’r llwybrau i Benrhyncoch, dyw e ddim yn bell o Aberystwyth ond mewn diwrnod cyfan mae’n golygu dros 200 cilomedr y dydd.

"Mae cost tanwydd, cost cynnal a chadw, cost cyflogau, cost popeth wedi cynyddu."

'Anfforddiadwy'

Dywedodd y Cynghorydd Keith Henson, Aelod Cabinet Ceredigion sy’n gyfrifol am drafnidiaeth, fod y cyngor yn gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol gan gynnwys Llywodraeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru i geisio dod o hyd i ffordd ymlaen.

Fodd bynnag, ychwanegodd y Cynghorydd Henson: "Mae gwasanaethau a rhwydweithiau bysiau yn ddeinamig ac yn destun newid. Mae newidiadau pellach yn debygol gan mai’r realiti yw, yn ogystal â phrinder adnoddau, mae swm y cymhorthdal sydd ei angen nawr i ddarparu’r gwasanaethau yn anfforddiadwy, yn anghyfiawnadwy ac yn anghynaladwy yn yr hinsawdd ariannol sydd ohoni.” 

Mae gwasanaethau bysiau gwledig dan bwysau ledled Cymru oherwydd costau gweithredu uwch a hefyd oherwydd gostyngiad yn nifer y teithwyr.

Mae ffigyrau Llywodraeth Cymru yn dangos bod nifer y teithiau gan deithwyr bws yng Nghymru yn y deng mlynedd hyd at ddechrau’r pandemig wedi gostwng o 116 miliwn yn 2009/10 i 91 miliwn yn 2019/20.

Cafodd y pandemig effaith enfawr - yn 2020/21 plymiodd nifer y teithiau bws yng Nghymru i 26 miliwn, a thra bu adferiad yn ddiweddar dywed Mel Evans o Mid Wales Travel nad ydynt yn agos at y ffigurau a gafwyd cyn y pandemig.

"Yn anffodus, ry’n ni dal yn is na 50% o nifer y teithwyr o’r cyfnod cyn Covid. Felly mae gennych chi lai o arian yn dod i mewn a mwy o arian yn mynd allan. Mae'n rhaid i rywbeth roi yn rhywle.

Ym mis Mehefin y llynedd fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru £48 miliwn i helpu’r diwydiant bysiau i adfer ar ôl effeithiau’r pandemig.

Mae'r Pecyn Brys ar gyfer Bysiau wedi helpu llawer o weithredwyr ledled Cymru i gynnal gwasanaethau yn ystod cyfnod heriol iawn. Ond, bydd y cyllid yn dod i ben ym mis Mawrth ac mae pryderon am yr hyn a allai ddigwydd yn y misoedd i ddod.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae’r pandemig wedi cael effaith enfawr ar y diwydiant bysiau ledled y DU. Ers 2020 rydym wedi sicrhau bod mwy na £150m o gyllid ar gael i weithredwyr bysiau i helpu i gadw gwasanaethau hanfodol ar y ffordd.

"Rydym ar hyn o bryd yn gweithio gydag awdurdodau lleol i asesu’r tueddiadau teithio diweddaraf a’r llynedd cyhoeddwyd ein Papur Gwyn ar Ddiwygio Bysiau i helpu i greu newid cadarnhaol sylweddol i’r ffordd y caiff gwasanaethau bysiau eu cynllunio a’u darparu yng Nghymru."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.