Newyddion S4C

Llwyddiant Dal y Mellt yn 'dangos beth sy'n bosib' trwy'r Gymraeg

28/01/2023

Llwyddiant Dal y Mellt yn 'dangos beth sy'n bosib' trwy'r Gymraeg

Mae cyhoeddwr llyfrau yn dweud fod llwyddiant cyfres Dal y Mellt yn "dangos beth sy'n bosib" wrth ysgrifennu nofelau trwy gyfrwng y Gymraeg. 

Fe wnaeth S4C gyhoeddi wythnos diwethaf fod yr hawliau ar gyfer y ddrama trosedd wedi'u gwerthu i Netflix. 

Dyma fydd y tro cyntaf i gyfres uniaith Cymraeg gael ei ffrydio ar y platfform, gan ddod ar gael i wylwyr o fis Ebrill ymlaen. 

Ond nid yn unig y diwydiant teledu yng Nghymru sydd yn buddio o'r newyddion, yn ôl pennaeth cyhoeddi gwasg llyfrau Y Lolfa. 

Dywedodd Lefi Gruffudd fod llwyddiant Dal y Mellt, sydd yn seiliedig ar y llyfr o'r un enw gan Iwan 'Iwcs' Roberts, hefyd yn hwb i awduron. 

"Dwi feddwl mai'n rhywbeth i bobl sylweddoli mae modd neud hyn [ysgrifennu llyfrau] yn Gymraeg," meddai. 

"Sdim rhaid i'r cynnyrch gwreiddiol fod yn Saesneg er mwyn cyrraedd y farchnad yna.

"Does dim arian mawr i wneud yn ysgrifennu yn y Gymraeg, ond mae hwn yn sicr yn dangos y potensial i ddatblygu yn y ffordd 'na.

"Os yw'r cynnyrch yn dda, mae modd neud hyn yn y Gymraeg a chyrraedd marchnadoedd a chael incwm ychwanegol trwy hynny." 

Yn ôl Mr Gruffudd, daw'r newyddion da ar gyfnod anodd i'r diwydiant llyfrau yng Nghymru. 

Mae'r argyfwng costau byw yn taro Y Lolfa yn galed; nid yn unig oherwydd costau ynni uwch, ond mae pris papur wedi cynyddu gan 50% gan roi straen andwyol ar y busnes. 

I gyd-fynd gyda chostau uwch, mae Y Lolfa wedi gweld gostyngiad yn ei gwerthiant dros y flwyddyn ddiwethaf wrth i bobl brynu llai o lyfrau. 

Er gwaethaf yr heriau sydd yn wynebu'r wasg, mae Mr Gruffudd yn gweld llwyddiant Dal y Mellt fel tamaid o newyddion da yn ystod cyfnod anodd. 

"Mae'n hawdd iawn i boeni ac yn mynd yn negyddol ynglŷn â gwerthiant sydd ddim wastad wedi bod yn gystal â disgwyl dros y flwyddyn ddiwethaf.

"Ond mae'n dangos bod y sgwennu yna a'r safon yna a bod y potensial i ddeunydd Cymraeg i gyrraedd ymhellach.

"Felly mae'n hwb i ni yn bendant."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.