Wrecsam i wynebu Sheffield United ym mhedwaredd rownd Cwpan yr FA
Wrecsam i wynebu Sheffield United ym mhedwaredd rownd Cwpan yr FA
Bydd Wrecsam yn herio Sheffield United ym mhedwaredd rownd Cwpan yr FA ddydd Sul.
Dyma'r tro cyntaf i'r clwb gyrraedd y bedwaredd rownd ers 2000, pan oeddynt wedi herio Cambridge United.
Wrecsam yw'r unig dîm o'r cynghreiriau di-gynghrair sydd dal yn y gystadleuaeth.
Fe wnaeth tocynnau i'r gêm yn y Cae Ras werthu allan 25 munud wedi iddynt fynd ar werth.
Dyma'r ail dro y bydd Wrecsam yn herio clwb o'r Bencampwriaeth yn y gystadleuaeth, wedi iddynt guro Coventry yn y rownd ddiwethaf.
Roedd goliau cynnar gan Sam Dalby ac Elliot Lee wedi rhoi Wrecsam ar y blaen gyda llai na 20 munud ar y cloc, cyn i Ben Sheaf sgorio i Coventry 10 munud cyn hanner amser.
Fe aeth Wrecsam 4-1 ar y blaen wedyn, ac wedi dal ar i sicrhau'r fuddugoliaeth er dwy gôl hwyr gan Coventry.
Cyfle i greu hanes
Os ydy Wrecsam yn gallu sicrhau buddugoliaeth yn erbyn Sheffied United ddydd Sul, dyna fydd y tro cyntaf i'r clwb gyrraedd y bumed rownd ers 43 o flynyddoedd.
Y tro diwethaf iddynt gyrraedd y bumed rownd oedd yn 1981 pan oeddynt wedi colli 3-1 oddi cartref i Wolverhampton Wanderers.
Roedd y clwb wedi cyrraedd yr un rownd y flwyddyn gynt, ond wedi colli 5-2 i Everton.
Mae tîm Phil Parkinson yn chwarae'n dda ar drothwy'r gêm, ac wedi cyrraedd brig y Gynghrair Genedlaethol wedi iddynt guro Gateshead.
Ond bydd yr her o'u blaenau yn un fawr gyda Sheffield United yn ail yn y Bencampwriaeth a heb golli yn y gynghrair ers 8 Tachwedd.
Maen nhw wedi ennill pedair o'u pum gêm ddiwethaf, ac yn gobeithio cyrraedd y bumed rownd am y trydydd tro ers 2020.
Er hyn, bydd cefnogwyr Wrecsam yn hyderus y byddant yn gallu curo United, a chyrraedd y bumed rownd.
Llun: CPD Wrexham