Newyddion S4C

Gweithwyr ambiwlans yn cynnal streic arall dros gyflog ‘teg’

23/01/2023
streic ambiwlans

Mae gweithwyr ambiwlans ar draws Cymru a Lloegr yn cynnal streic arall ddydd Llun dros gyflogau a staffio.

Daw hyn ar ôl i undeb Unison ddweud wrth y Canghellor Jeremy Hunt y byddai yn gallu atal y streic a datrys yr argyfwng staffio os bydd yn cytuno i dalu gweithwyr iechyd “yn deg”.

Ond dywedodd yr undeb os bydd Mr Hunt yn parhau i wrthod ryddhau cyllid ac ail gychwyn trafodaethau i ddod â’r streiciau i ben, gallai’r anghydfod barhau am rai misoedd.

'Cyflogau uwch'

Fe fydd miloedd o aelodau Unite a’r GMB yn streicio ar draws Cymru a Lloegr ddydd Llun. Bydd tua 15,000 o weithwyr ambiwlans Unison yn streicio am y trydydd tro o fewn pum wythnos.

O 7 y bore fe fydd parafeddygon, cymhorthwyr gofal dwys, technegwyr ambiwlans, aelodau criwio 999 a staff ystafelloedd rheoli yn ymuno â llinellau piced.

Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol Unison Christina McAnea: “Mae’r cyhoedd eisau i’r llywodraeth ddod a’r anghydfod yma i ben, fel y mae staff y GIG.

“Byddai cyflogau uwch yn atal gweithwyr profiadol rhag gadael am swyddi sy’n talu’n well ac yn annog rhagor o bobl i weithio yn y GIG.

"Gyda staff ychwanegol byddai amseroedd ymateb yn gwella a rhestrau aros i gleifion yn lleihau."

'Hanfodol'

Dywedodd undeb Unite y bydd aelodau ar draws Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn cynnal nifer o streiciau dros yr wythnosau nesaf.

Fe fydd aelodau'r undeb yng Nghymru yn mynd ar streic ar ddyddiau'r 6ed a'r 20fed o Chwefror, a'r 6ed a'r 20fed o fis Mawrth.

Roedd gweithwyr ambiwlans ar streic yng Nghymru ddydd Iau, ac mewn ymateb i'r streic honno, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn gweithio gyda'r Gwasanaeth Iechyd, undebau a phartneriaid i sicrhau bod gofal sy’n achub a chynnal bywyd yn cael ei ddarparu yn ystod y gweithredu diwydiannol, bod diogelwch cleifion yn cael eu cynnal a bod aflonyddwch yn cael ei leihau.

"Ond mae'n hanfodol i bob un ohonom wneud popeth o fewn ein gallu i leihau'r pwysau ar ein gwasanaeth iechyd yn ystod y gweithredu diwydiannol ac ein bod yn ystyried yn ofalus pa weithgareddau rydym yn cymryd rhan ynddynt.

"Dylai unrhyw un sydd mewn perygl uniongyrchol ffonio 999 ac rydym yn annog pobl i ddefnyddio gwefan 111 GIG Cymru i gael cyngor iechyd lle nad oes bygythiad i fywyd, neu siarad â fferyllydd, meddyg teulu neu ymweld ag uned fân anafiadau."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.