Newyddion S4C

Galw am ymchwiliad i amgylchiadau benthyciad gan Boris Johnson

22/01/2023
Boris Johnson

Mae’r Blaid Lafur wedi galw am ymchwiliad seneddol i amgylchiadau benthyciad a gafodd Boris Johnson pan yn brif weinidog.

Yn ôl y Sunday Times roedd cadeirydd y BBC Richard Sharp yn gyfrifol am drefnu gwarantwr ar gyfer y benthyciad o £800,000.

Roedd hyn ychydig wythnosau cyn i Mr Sharp gael ei benodi fel cadeirydd y BBC.

Dywedodd Mr Sharp ei fod wedi “cysylltu” pobl yn unig ac nid oedd unrhyw wrthdaro buddiannau.

Dywedodd llefarydd ar ran Mr Johnson nad oedd wedi derbyn unrhyw ymghynghoriad ariannol gan Mr Sharp.

Mae’r Blaid Lafur yn honni fod Mr Johnson wedi torri cod ymddygiad aelodau seneddol trwy beidio â datgan y trefniant ar ei gofrestr seneddol o ddiddordebau.

Cymeradwyo

Cafodd Mr Johnson y benthyciad gan y dyn busnes o Ganada Sam Blyth.

Yn ôl y Sunday Times fe gafodd Mr Sharp, Mr Blyth a Mr Johnson ginio gyda'i gilydd cyn i’r benthyciad gael ei benderfynu.

Roedd Mr Sharp ar y pryd yn ymgeisio i fod yn gadeirydd y BBC.

Cafodd Mr Sharp ei benodi fel cadeirydd y BBC yn Ionawr 2021. 

Mae’r swydd yn cael ei gymeradwyo gan yr ysgrifennydd diwylliant a’r prif weinidog.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.