Dim Pentref Ieuenctid yn y Sioe Frenhinol eleni

Mae Mudiad Clwb Ffermwyr Ifanc Cymru wedi cyhoeddi na fydd Pentref Ieuenctid yn y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd eleni.
Mewn datganiad ddydd Sadwrn, dywedodd CFfI Cymru fod y penderfyniad wedi ei wneud oherwydd costau sefydlu cynyddol a bod y ffocws yn mynd i fod “ar y cyfleoedd y mae’r sioe yn ei gynnig.”
“Mae’r sioe bob amser yn un o’r prif uchafbwyntiau i lawer o aelodau o bob rhan o Gymru ac ni fydd 2023 yn eithriad," medden nhw. "Gyda rhaglen gystadlaethau llawn dop yn rhoi cyfleoedd i aelodau ddatblygu sgiliau a chwrdd â ffrindiau o bob rhan o Gymru, mae’r sioe yn nodwedd gyffrous arall i galendr y CFfI.
“Mae’r penderfyniad wedi’i wneud i beidio â rhedeg y Pentref Ieuenctid a rhoi holl ffocws y sefydliadau ar y cyfleoedd y mae’r sioe yn ei gynnig. Trwy gystadleuaethau, Materion Gwledig, cymdeithasu a datblygu partneriaethau, mae’r mudiad yn gobeithio ffynnu ac yn gyffrous i groesawu aelodau i’r Sioe Frenhinol."
'Darlun ehangach'
Dywedodd Cadeirydd CFfI Cymru, Hefin Evans: “Dyma benderfyniad nad yw’r sefydliad wedi’i wneud yn ysgafn. Mae llawer o feddwl a thrafod wedi digwydd gyda’n haelodau drwy’r prosesau democrataidd sydd ar waith.
“Mae’r argyfwng costau byw, costau tanwydd cynyddol, costau llogi offer wedi cael effaith aruthrol ar y costau isadeiledd gan ei gwneud yn amhosibl i’r sefydliad ei wneud yn opsiwn ymarferol.
“Rhaid inni edrych ar y darlun ehangach a diogelu dyfodol ein sefydliad. Edrychwn ymlaen at y sioe gyda llechen ffres ac yn gyffrous i groesawu aelodau i’r Ganolfan CFfI.”
Yn 2022 roedd gweithgareddau yn y Pentref ar gyfer ffermwyr ifanc wedi eu cynnal am y tro cyntaf ers tair blynedd yn sgil y pandemig.
Roedd yr ŵyl wedi croesawu nifer o'r artistiaid mwyaf poblogaidd yng Nghymru, gan gynnwys Katie Owen, Candelas a'r Welsh Whisperer.