Arweinwyr 50 o wledydd yn cyfarfod i drafod arfogi lluoedd Wcráin

Fe fydd arweinwyr dros 50 o wledydd yn cyfarfod yn ddiweddarach dydd Gwener i drafod y camau nesaf o arfogi lluoedd Wcráin yn dilyn yr ymosodiad ar y wlad gan Rwsia.
Fe fydd y cyfarfod yn cael ei gynnal ar safle milwrol Ramstein yn yr Almaen.
Mae gwahaniaeth barn ymysg y gwledydd am yr hyn y dylid ei wneud i gynnig cymorth ymarferol i Wcráin, gyda rhai gwledydd fel yr Almaen yn gwrthwynebu anfon tanciau milwrol i'r wlad rhag ofn i'r gwrthdaro ehangu.
Y penwythnos diwethaf fe wnaeth Rishi Sunak gyhoeddi y byddai Prydain yn anfon sgwadron o danciau i’r Wcráin i gynorthwyo ymdrechion y wlad i ail-hawlio tiriogaeth a gollwyd i luoedd Rwsia dros y misoedd diwethaf.
Fe fydd pedwar tanc Challenger 2 yn cael eu hanfon i ddwyrain Ewrop ar unwaith, gydag wyth arall i ddilyn yn fuan wedyn.
Thank you @POTUS for providing 🇺🇦 with another powerful defense support package worth $2.5 billion. Stryker IFVs, additional Bradley APCs, Avenger air defense systems are important help in our fight against the aggressor. Thank you 🇺🇸 people for unwavering leadership support!
— Володимир Зеленський (@ZelenskyyUa) January 20, 2023
Daw'r cyfarfod yn dilyn y cyhoeddiad fod yr UDA wedi darparu pecyn newydd o gymorth milwrol i Wcráin sydd werth $2.5 biliwn o ddoleri.
Mae Gwlad Pwyl yn gefnogol i'r syniad o anfon tanciau i Wcráin, ac yn ystyried camau i allu gwneud hynny hyd yn oed os yw'r Almaen yn gwrthwynebu'r cam yma.
Mae'r Almaen dan bwysau cynyddol i anfon tanciau Leopold 2 i gynorthwyo yn yr ymladd.
Yn ei anerchiad nosweithiol i'r wlad nos Iau, dywedodd arlywydd Wcráin, Volodomyr Zelensky, ei fod yn obeithiol y byddai "prnderfyniadau cryf" yn cael eu gwneud yng nghyfarfod y gwledydd ddydd Gwener.
Llun: Y Weinyddiaeth Amddiffyn