Athrawon iaith i ddefnyddio nofelau graffeg i asesu myfyrwyr?

Fe allai athrawon iaith ddefnyddio nofelau graffeg yn lle traethodau i asesu myfyrwyr, yn ôl gwaith ymchwil newydd.
Mae gwaith sy'n cael ei arwain gan Brifysgol Aberystwyth yn dangos y gellid defnyddio clownio a dramâu radio hefyd i asesu myfyrwyr sy'n dysgu ieithoedd.
Ar hyn o bryd, mae asesiadau ieithoedd modern yn aml yn dibynnu ar waith ysgrifenedig a phrofion llafar.
Ond mae tîm o academyddion Ieithoedd Modern yn ceisio annog athrawon a dysgwyr i ddefnyddio ffyrdd newydd o asesu myfyrwyr sy'n dysgu ieithoedd, trwy gyfrwng celf.
Mae Creative Modern Languages Hub wedi ei lansio gan y tîm, sef adnodd ar-lein.
Mae'r adnodd yn cynnig enghreifftiau o ddulliau asesu creadigol o'r DU a thu hwnt.
Dywedodd arweinydd y prosiect, Dr Alex Mangold, sy'n darlithio yn Adran Ieithoedd Modern Prifysgol Aberystwyth: "Fel athrawon sy’n dysgu ieithoedd modern, gallwn fesur sgiliau iaith myfyrwyr trwy osod traethawd neu arholiad llafar.
"Serch hynny, rydym yn awyddus i ysbrydoli athrawon i feddwl ‘y tu allan i'r blwch’.
"Bwriad ein casgliad eang o enghreifftiau o ddulliau asesu creadigol yw tanio'r dychymyg a dangos y potensial y gall creadigrwydd artistig ei gynnig."
Gobaith y tîm yw y bydd yr adnoddau sydd ar gael yn annog darlithwyr eraill i arbrofi gyda dulliau asesu yn y pwnc yn y dyfodol.