Warren Gatland i enwi ei garfan gyntaf ers dychwelyd fel hyfforddwr Cymru

Fe fydd Warren Gatland yn enwi ei garfan gyntaf ers dychwelyd fel hyfforddwr rygbi Cymru ddydd Mawrth, wrth i baratoadau ddechrau ar gyfer y Chwe Gwlad.
Dyma fydd cyfle cyntaf y cefnogwyr i weld pa fath o newidiadau y bydd Gatland yn gwneud wedi iddo gymryd lle Wayne Pivac ym mis Rhagfyr.
Cafodd Pivac ei ddiswyddo ar ôl cyfres o ganlyniadau gwael yn 2022, gan gynnwys colledion gartref i'r Eidal a Georgia.
Gyda Gatland bellach nôl wrth y llyw fe fydd y cefnogwyr yn awyddus i weld ymgyrch gref yn y Chwe Gwlad.
Daw'r bencampwriaeth eleni yn ystod cyfnod tyngedfennol i Gymru, nid yn unig oherwydd ailbenodiad Gatland.
Mae Cwpan y Byd yn Ffrainc ar y gorwel, ac mae cwestiynau yn parhau o hyd am safon y timau rhanbarthol a'r strwythur rygbi yng Nghymru.
Mae penderfyniadau Gatland ar gyfer yr ymgyrch nesaf, felly, yn teimlo'n bwysicach fyth o gymharu â charfannau cynt.
Wynebau newydd
Yn ddiweddar, mae rhai wedi dweud y dylai chwaraewyr newydd gael cyfle yn y crys coch, wrth i nifer o'r garfan heneiddio.
Mae rhai talentau ifanc eisoes wedi cael cyfle yn ystod gemau olaf Pivac, fel Rio Dyer a Joe Hawkins.
Ond mae nifer eraill wedi serennu yn ystod tymor y Bencampwriaeth Rygbi Unedig eleni, gan gynnwys Keiran Williams, Mason Grady a Dan Davis.
Os ydy Gatland yn dewis unigolion mwy amhrofiadol, pa chwaraewyr fydd yn cael eu hepgor?
Y disgwyl yw y bydd cewri fel Alun Wyn Jones, Ken Owens neu Dan Biggar yn chwarae ond does dim sicrwydd y bydd pob chwaraewr profiadol yn cadw eu lle.
Er hynny, mae yna restr hirfaith o chwaraewyr Cymru sydd wedi'u hanafu.
Ni fydd Will Rowlands, Gareth Anscombe a Thomas Young ar gael ar gyfer y bencampwriaeth gyfan.
Mae yna hefyd amheuon ynglŷn â faint o gemau y bydd Louis Rees-Zammit, Dillon Lewis a Ryan Elias yn medru chwarae.
Penderfyniadau anodd i Gatland felly ac ar adeg lle mae yna bwysau aruthrol i wneud y dewisiadau cywir.