Cyhuddo dyn ifanc wedi gwrthdrawiad difrifol yn Llanelli

Mae dyn 18 oed wedi ei gyhuddo o achosi anafiadau difrifol i ddyn oedrannus drwy yrru'n beryglus yn Llanelli.
Mae Bradley Taylor hefyd wedi ei gyhuddo o fethu â stopio ar ôl damwain ffordd, methu ag adrodd am ddamwain a gyrru heb yswiriant.
Cafodd ei gyhuddo yn dilyn ymchwiliad wedi i yrrwr beic modur oddi-ar y ffordd daro dyn 94 oed yn Llanelli ar ddydd Gwener 6 Ionawr.
Mae’r dyn yn parhau yn yr ysbyty.
Cafodd Mr Taylor ei gadw yn y ddalfa a bydd yn ymddangos o flaen Llys Ynadon Abertawe ddydd Sadwrn.