Gwrthod deiseb i ail-enwi Pont Tywysog Cymru yn Pont Gareth Bale
Mae deiseb oedd yn galw am ail-enwi Pont Tywysog Cymru yn Pont Gareth Bale wedi ei wrthod gan San Steffan a Llywodraeth y DU.
Fe wnaeth Andrew Challis gais i greu deiseb i ail-enwi'r bont yn dilyn cyhoeddiad Gareth Bale ei fod ymddeol o chwarae pêl-droed.
Roedd Mr Challis eisiau newid enw'r bont i 'Gareth Bale Bridge' neu 'Y Bont Bale'.
Cafodd y ddeiseb ei gwrthod gan Bwyllgor Deisebau Tŷ'r Cyffredin, sydd yn cael ei gynnal ar y cyd gan Lywodraeth y DU a San Steffan.
Dywedodd y pwyllgor: "Nid ydym yn derbyn deisebau ynglŷn ag anrhydeddau neu apwyntiadau. Mae hyn yn cynnwys ceisiadau i enwi isadeiledd cyhoeddus er anrhydedd unigolion."
Roedd Senedd Cymru hefyd wedi gwrthod y ddeiseb yn flaenorol am mai nid nhw sydd piau'r bont.
Dywedodd Mr Challis ei fod bellach wedi ysgrifennu i Alun Cairns, oedd yn Ysgrifennydd Cymru pan gafodd y bont ei ail-enwi'n Pont Tywysog Cymru.
Mae hefyd wedi ysgrifennu i Ysgrifennydd Cymru David TC Davies, Mark Drakeford, Adam Price ac Andrew RT Davies.
'Ar unwaith'
Cyhoeddodd Gareth Bale ddydd Llun ei fod yn ymddeol o bêl-droed rhyngwladol ac o'i glwb.
Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol ddydd Llun, dywedodd Bale ei fod yn "ymddeol ar unwaith o bêl-droed clwb ac yn rhyngwladol."
Roedd Bale yn gapten ar dîm pêl-droed dynion Cymru yn ogystal â'n chwarewr i glwb pêl-droed Los Angeles FC yn UDA.
Fe wnaeth gynrychioli Cymru 111 o weithiau, gan sgorio 41 o goliau rhyngwladol.
Mae wedi cael gyrfa euraidd dros ei wlad a'i glwb, gan gynrychioli Cymru yn EURO 2016, EURO 2020 a Chwpan y Byd.
Llun: A fo ben bid bont? Gareth Bale gan Huw Evans. Pont Hafren gan diego_torres (CC BY-NC-ND 2.0).