Newyddion S4C

Thomas Young yn gadael y cae yn erbyn y Scarlets. Llun gan Huw Evans

Anaf yn chwalu gobeithion Thomas Young o gymryd rhan yn y Chwe Gwlad

NS4C 11/01/2023

Mae gobeithion Thomas Young o gymryd rhan yn ymgyrch Chwe Gwlad Cymru wedi dod i ben oherwydd anaf.

Fe fydd Warren Gatland yn cyhoeddi ei garfan yr wythnos nesaf a roedd disgwyl i'r blaen-asgellwr fod yn ymgeisydd cryf ar sail ei gemau i Gaerdydd.

Ond does dim disgwyl iddo chwarae nes mis Ebrill nesaf bellach ar ôl dioddef anaf i gyhyr yn ei goes yn erbynb y Scarlets dros y penwythnos.

“Gall Rygbi Caerdydd gadarnhau na fydd Thomas Young yn chwarae am hyd at dri mis yun dilyn anaf i gyhyr croth y goes,” meddai ei ranbarth mewn datganiad.

Fe fydd y cefnwr Liam Williams yn ffit i chwarae ar ôl cael ei asesu am anaf i’w ben yn ystod yr ornest yn erbyn y Scarlets.

Mae disgwyl i Louis Rees-Zammit fod yn holliach erbyn canol y Chwe Gwlad.

Llun: Thomas Young yn gadael y cae yn erbyn y Scarlets. Llun gan Huw Evans

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.