Newyddion S4C

Rishi Sunak yn dweud fod Gareth Bale yn ‘arwr’ iddo

11/01/2023
Gareth Bale a Rishi Sunak

Mae’r Prif Weinidog Rishi Sunak wedi dweud fod Gareth Bale yn “arwr i mi” wrth i Aelodau Seneddol dalu teyrngedau i’r pêl-droediwr.

Penderfynodd Gareth Bale ymddeol ar ôl arwain Cymru i Gwpan y Byd 2022 yn Qatar am y tro cyntaf ers 1958.

Dywedodd Rishi Sunak bod Gareth Bale wedi dechrau ei yrfa yn y clwb, Southampton, yr oedd ef hefyd yn ei gefnogi.

Wrth siarad yn ystod cwestiynau’r Prif Weinidog dywedodd yr AS Plaid Cymru Liz Saville Roberts: “Rwy’n siŵr yr hoffai’r Tŷ ymuno â fi yn dymuno’r gorau i Gareth Bale, cyn-gapen tîm pêl-droed Cymru.

“Mae wedi bod yn ysbrydoliaeth genedlaethol ac wedi mynd a Chymru i Gwpan Pêl-droed y Byd.”

Wrth ymateb, dywedodd Rishi Sunak: “Gadewch i mi ymuno â hi wrth ddymuno’r gorau i Gareth Bale.

“Fel cefnogwr Southampton roedd hefyd yn arwr i mi ac rwy’n dymuno’r gorau iddo.”

Llun: Gareth Bale (Huw Evans) a Rishi Sunak (Stefan Rousseau / PA).

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.