CPD Dinas Caerdydd wedi talu rhan gyntaf ffi trosglwyddo Emiliano Sala

Mae CPD Dinas Caerdydd wedi talu rhan gyntaf y ffi trosglwyddo i glwb Nantes yn Ffrainc ar gyfer Emiliano Sala.
Fe wnaeth yr ymosodwr ymuno â'r Adar Gleision am £15m ym mis Ionawr 2019 ond bu farw cyn chwarae gêm i'r clwb wedi i'w awyren blymio i'r môr ar ei ffordd i Gymru.
Yn dilyn ei farwolaeth, fe wnaeth y clwb wrthod talu'r ffi ar gyfer Sala, gan honni nad oedd yr ymosodwr 28 oed yn chwaraewr swyddogol i'r clwb ar y pryd.
Er hyn, fe wnaeth bwrdd llywodraethu pêl-droed rhyngwladol, FIFA, benderfynu bod yn rhaid i Gaerdydd dalu Nantes ar gyfer y chwaraewr.
Y gred yw mai o gwmpas £7m oedd y ffi gychwynnol, gyda disgwyl i FIFA godi'r embargo ar y clwb oedd yn golygu nad oeddent yn gallu arwyddo chwaraewyr.
Mae'r clwb hefyd wedi apelio ar Gynghrair Bêl-droed Lloegr i godi embargo arall fel y gallant arwyddo chwaraewyr yn ystod ffenestr drosglwyddo mis Ionawr.
Ar hyn o bryd, mae'r clwb yn yr 20fed safle yn y Bencampwriaeth, bedwar pwynt yn unig oddi ar waelod y tabl.
Llun: CPD Dinas Caerdydd