Dean Saunders: 'Mae angen adeiladu cerflun o Bale'

Mae cyn-chwaraewr Cymru, Dean Saunders wedi dweud y dylai cerflun cael ei adeiladu o Gareth Bale.
Roedd Saunders yn siarad ar raglen radio TalkSport yn dilyn cyhoeddiad Gareth Bale ei fod yn ymddeol o chwarae pêl-droed.
Dywedodd Saunders: "Mae e wedi gwneud gymaint dros ein gwlad, dylai nhw adeiladu cerflun ohono.
"Mae pobl fel Tom Jones wedi rhoi ni ar y map, Shirley Bassey, Anthony Hopkins, mae e'n gymaint o legend a nhw.
"Ma' fe'n fwy na Rushy (Ian Rush), mae e 'di gwneud mwy dros Gymru nag unrhyw un.
"Dwi'n cynrychioli cyhoedd Cymru ar y radio nawr, a dwi'n meddwl bydd pawb yng Nghymru yn cytuno gyda fi. Mae e wedi ysbrydoli gymaint o bobl a rhoi ni ar y map."
'Enwch bob dim ar ei ôl'
Torrodd calonnau nifer o Gymry ar draws y genedl pan gyhoeddodd Bale ddydd Llun ei fod yn ymddeol o'r gamp, ac yntau wedi bod yn ganolog i lwyddiannau Cymru dros y blynyddoedd diwethaf.
Roedd sawl un yn cytuno gyda Saunders, ac eraill hyd yn oed wedi awgrymu ailenwi pontydd a llefydd ar ôl Gareth Bale.
Fe wnaeth cyfrif SoccerCymru ar Trydar awgrymu y dylai Pont Tywysog Cymru cael ei ailenwi ar ôl Bale, yn ogystal ag enwi Maes Awyr Caerdydd ar ei ôl.
Where’s the Gareth Bale statue going?
— Soccer Cymru ⚽️ 🏴 (@soccercymru) January 9, 2023
Name the Severn Bridge after him.
Name the airport after him.
Give him everything. pic.twitter.com/6jse3m8Wlv
Fe wnaeth un arall ddychmygu sut fyddai cerflun o Bale yn edrych pe bai'n tebyg i gerflun Colossuss of Rhodes, ond uwchben afon Taf.
Another day spent wondering how a giant Gareth Bale statue like the Colossus of Rhodes would look straddling the River Taff. pic.twitter.com/dQA2UI2qm2
— David Owens (@asoundreaction) November 12, 2021
Tybed a fydd y Senedd yn rhoi arian tuag at adeiladu cerflun? Dyna oedd awgrym un arall - yn ogystal ag adeiladu'r cerflun tu allan i orsaf trên Caerdydd Canolog.