Newyddion S4C

Caerfyrddin

Cymeradwyo cynyddu treth cyngor ar ail dai yn Sir Gaerfyrddin

NS4C 10/01/2023

Fe allai perchnogion ail gartrefi yn Sir Gaerfyrddin orfod talu dwbl y treth cyngor o dan gynigion a gymeradwywyd gan gabinet y cyngor.

Mae'r argymhelliad ail gartref yn cynnig codi premiwm treth cyngor o 50% neu 100%. Mae hyn yn amodol ar ymgynghoriad cyhoeddus a chymeradwyaeth gan y cyngor llawn. 

Yn ogystal, cymeradwyodd aelodau’r cabinet argymhelliad premiwm treth gyngor ar gyfer perchnogion tai gwag hirdymor.

Byddai perchnogion tai sydd wedi bod yn wag ers blwyddyn neu ddwy yn talu premiwm o 50%, gan gynyddu i 100% ar gyfer y rhai sydd wedi bod yn wag ers dwy i bum mlynedd. Byddai cynnydd pellach i 200% ar gyfer eiddo sy'n wag am bum mlynedd neu fwy.

Mae awdurdod Plaid Cymru-Annibynnol Sir Gaerfyrddin wedi dal yn ôl yn y gorffennol rhag gosod premiwm treth cyngor ar ail gartrefi, er gwaethaf pryderon am eu heffaith ar brisiau tai mewn rhai ardaloedd.

Codi hyd at 300%

Ar ôl i’r argymhellion newydd gael eu cymeradwyo, dywedodd arweinydd y cyngor, Darren Price: “Dyma ddechrau’r daith.”

Mae gan naw o 22 awdurdod lleol Cymru bremiwm treth cyngor ar ail gartrefi o lefelau amrywiol, tra bod gan 11 bremiwm ar gyfer cartrefi gwag hirdymor.

O fis Ebrill eleni, gellir codi premiymau mor uchel â 300% ar ail gartrefi.

Mae gan Sir Gaerfyrddin tua 1,060 o ail gartrefi ond dim ond 860 ohonyn nhw, am wahanol resymau, sy'n debygol o fod yn gymwys i gael premiwm treth gyngor.

Yn ogystal, mae yna tua 2,310 o gartrefi gwag yn y sir, ac mae 1,310 ohonynt wedi bod yn wag ers mwy na blwyddyn ac felly byddent yn gymwys i'r premiwm newydd.

Ni fyddai’r premiwm ail gartref na’r premiwm cartref gwag hirdymor yn cael ei osod cyn mis Ebrill 2024.

Dywedodd aelod o staff gwerthwyr tai Clee Tompkinson Francis, Caerfyrddin, nad oeddent yn credu y byddai’r premiwm ail gartrefi yn atal prynwyr eiddo drytach, ond y gallai gael effaith ar y rhai sydd ag ail gartrefi gwerth tua £150,000, er enghraifft.

Dywedodd ei fod yn gwerthfawrogi bod angen tai ar bobl leol i fyw ynddynt, ond dywedodd fod pobl gydag ail gartrefi yn cael effaith economaidd buddiol drwy wario arian mewn bwytai a chaffis lleol.

“Mae mentrau masnachol angen yr arian, fe fyddai sgil-effaith pe bai’r incwm hwnnw’n cael ei dorri," meddai.

Dywedodd yr adroddiad gerbron y cabinet fod peth ymchwil yn nodi effeithiau cadarnhaol ail gartrefi, ond bod canfyddiadau diweddarach wedi herio hynny.

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.