Y Tywysog Harry: 'Dim ymdrech' gan y teulu Brenhinol i ail-adeiladu perthynas

Mae'r Tywysog Harry wedi dweud bod y teulu Brenhinol heb wneud "unrhyw ymdrech" i wella'r berthynas rhyngddynt ers iddo roi'r gorau i'w gyfrifoldebau brenhinol.
Roedd Dug Sussex yn siarad fel rhan o gyfweliad gydag ITV gafodd ei ddarlledu nos Sul.
Daw'r cyfweliad ar drothwy cyhoeddi ei hunangofiant, Spare, yn swyddogol ar 10 Ionawr.
Mae'r Tywysog wedi gwneud nifer o honiadau a chyhuddiadau yn erbyn y teulu Brenhinol, gan gynnwys awgrymu bod ei frawd, y Tywysog William, wedi ymosod yn gorfforol arno.
"Nhw heb wneud unrhyw ymdrech i wella'r berthynas. Dwi ddim yn gweld sut mae dweud y gwir yn torri'r berthynas."
Fe aeth y Tywysog ymlaen i wneud nifer o honiadau o'r newydd yn erbyn y teulu Brenhinol yn ystod y cyfweliad, gan amddiffyn ei benderfyniad i ddatgelu nifer o ddigwyddiadau preifat o fewn y llyfr.
Mae wedi disgrifio'r Frenhines Gydweddog, Camilla, fel dynes "beryglus" oherwydd ei chysylltiadau gyda'r cyfryngau.
Fe aeth y Tywysog hefyd ymlaen i feirniadu'r teulu Brenhinol dros yr ymateb i erthygl Jeremy Clarkson ynglŷn â'i wraig Meghan Markle.
Yn yr erthygl yn The Sun, dywedodd Mr Clarckson ei fod yn “casáu” Ms Markle a'i fod yn gobeithio gweld gwraig y Tywysog "yn cael ei gorymdeithio'n noeth drwy drefi Prydain."
Mae The Sun a Mr Clarkson bellach wedi ymddiheuro am y sylwadau, ond dywedodd Harry y dylai'r teulu Brenhinol fod wedi gwneud mwy yn erbyn yr erthygl "creulon."
"Mae'r byd yn edrych am ryw fath o ymateb gan y frenhiniaeth. Ond mae'r tawelwch yn fyddarol."
"Popeth i wneud gyda fy ngwraig, ar ôl chwe mlynedd, maen nhw heb ddweud dim."
Llun: ITV